Llifogydd difrifol yn effeithio ar siroedd Conwy a Dinbych

  • Cyhoeddwyd

Mae llifogydd difrifol wedi effeithio ar rannau o'r gogledd wedi oriau o law dros nos.

Siroedd Dinbych a Chonwy sydd wedi diodde' fwya'.

Yn ystod y nos cafodd cannoedd o bobl yn Llanelwy eu cynghori i adael eu tai ar ôl i Afon Elwy orlifo ei glannau.

Effeithiodd y llifogydd ar 200 o dai.

Dyma'r llifogydd gwaethaf yn Llanelwy ers degawdau gan fod rhan isa'r ddinas o dan ddŵr,

Bydd cyfarfod brys yno ddydd Mercher yn trafod clirio'r annibendod a chynllunio wrth gefn.

Corff

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod corff dynes oedrannus wedi ei ddarganfod mewn tŷ lle oedd llifogydd yn ardal Tair Felin.

Daethpwyd o hyd i'w chorff tua hanner dydd wrth i'r gwasanaethau brys wneud ymholiadau o dŷ i dŷ.

Mae nifer o asiantaethau wedi bod yn achub pobl, gan gynnwys y Groes Goch a Sefydliad y Bad Achub.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod dau rybudd llifogydd difrifol, perygl i fywyd, ar Afon Elwy yn Llanelwy ac o'r A55 i Ruddlan ger Parc Roe, Hen Waliau a'r Parc Busnes.

Mae tai yng ngogledd y ddinas, ym Mharc Roe a Stryd y Felin, o dan ddŵr ac mae'r ganolfan hamdden yn ganolfan frys.

Dywedodd Prifathro Ysgol Glan Clwyd, Martin Davies, y byddai'r ysgol ar gau ddydd Mercher.

"Bydd rhannau o'r ysgol yn lloches frys a does dim modd gyrru ar hyd ffyrdd yr ardal," meddai.

Ar gau roedd yr A525 ger Llanelwy a'r B538, Ffordd Isaf Dinbych.

Roedd trafferthion mewn sawl pentref yng Nghonwy - yn eu plith Llanfairtalhaearn, Llangernyw a Llansannan.

Roedd nifer o geir o dan ddŵr yn Rhuthun a hyd at 60 o dai ar stad Glasdir.

Cafodd canolfan frys ei sefydlu yn y ganolfan hamdden ac roedd yr A494 ar gau rhwng Rhuthun a Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Oherwydd y glaw, mae tirlithriad yn golygu bod yr A548 rhwng Llanrwst a Llangernyw wedi cau. Mae llun a dynnwyd gan un o drigolion yr ardal yn dangos bod hanner y ffordd wedi diflannu.

Ffynhonnell y llun, Rhian Gwawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o'r A548 rhwng Llanrwst a Llangernyw wedi cau oherwydd tirlithriad

'Difrifol'

Cafodd canolfan arbennig ei hagor yn Neuadd Goffa, Llanfairtalhaearn, gan fod y pentref i bob pwrpas wedi ei amgylchynu gan ddŵr.

Roedd yr A544 ar gau yn Llansannan ger Llanfairtalhaearn.

Yn Rhuddlan roedd lefel yr afon yn uchel ac mae pobl wedi cael eu symud o tua 15 o adeiladau yn y dref.

Roedd yr A5 ar gau ger Corwen ac wedi ei rhwystro'n rhannol ger Ffordd Maesmawr, Llangollen.

Mae wedi ailagor ym Metws-y-coed ond mae angen pwyll.

Ar gau roedd yr A4086, Pen-y-pas, rhwng Llanberis a Nant Peris, yr A548 rhwng Llanrwst ac Abergele a'r B4056 rhwng Llanrwst a Stryd y Bont.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Peter Newton o Heddlu'r Gogledd: "Mae ymateb brys wedi bod ar waith oherwydd y tywydd gwael er mwyn rhoi blaenoriaeth i unrhyw un sy' mewn perygl.

"Ein blaenoriaeth yw amddiffyn pobl ac rydym yn cydweithio gyda'r asiantaethau eraill."

Dywedodd fod y gwasnaeth tân ac achub yn gweithio hyd yr eithaf.

"Ers 6pm neithiwr maen nhw wedi derbyn mwy na 130 o alwadau ... ac mae diffoddwyr yn ymateb i alwadau brys yn yr holl ardal.

"Dylai pobl ffonio'r gwasanaeth os yw pobl mewn perygl ... bydd hyn yn ein helpu ni i flaenoriaethu galwadau."

Trafferthion ffyrdd

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn gafodd ymateb Darren Booth-Taylor, Prifathro Ysgol Talhaearn yn Llanfairtalhaearn sydd wedi gorfod cau oherwydd y llifogydd ddydd Mawrth.

Oherwydd y llifogydd cafodd ysgolion eu cau, gan gynnwys Ysgol Talhaearn, Ysgol Llanefydd, Ysgol Bro Cernyw, Ysgol Bro Aled, Llansannan, Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

Yn y cyfamser, mae 'na rybuddion llifogydd hefyd yn Nyffryn Conwy; Afon Rhyd-Hir ar gyrion Pwllheli ac ar Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer yn ogystal ag Afon Rhydeg yn Ninbych-y-Pysgod.

Mae llifogydd yn achosi trafferthion hefyd yn Llanrwst.

Gwasanaeth bws sydd ar gael yn lle trenau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am y tro.

Mae'r gwasanaethau trên wedi ei atal rhwng Caergybi a Bangor oherwydd llifogydd.

Dylai teithwyr gysylltu â'r cwmni trenau.

Fe fydd y tywydd yn gwella yn ystod y dydd wrth i'r glaw gilio ond fe fydd yn cymryd peth amser i lefelau dŵr yr afonydd ostwng.

"Yn ôl y rhagolygon fe fydd y glaw yn clirio erbyn y prynhawn gan droi'n sych ar y cyfan," meddai Rhian Haf, cyflwynydd tywydd Radio Cymru.

"Fe fydd hi'n dal yn eitha' gwyntog ac mae disgwyl cawodydd rhwng Ynys Môn a Sir Benfro, cawodydd gaeafol uwchben rhyw 700 metr."

Os yw unrhyw un yn poeni am lifogydd yn eu hardal, dylai ffonio llinell wybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0845 988 1188, gan ddefnyddio'r rhif 191907 am y wybodaeth ddiweddaraf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol