Eos a'r BBC: Dal yn barod i drafod

  • Cyhoeddwyd
Logo EosFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC ac Eos wedi methu cytuno hyd yma

Mae Eos a'r BBC wedi dweud eu bod yn barod i barhau i drafod er mwyn ceisio cael cytundeb ynghylch hawliau darlledu miloedd o ganeuon Cymraeg.

Mae Eos, sydd bellach yn cynrychioli cannoedd o gyfansoddwyr Cymraeg, wedi gwrthod cynnig ariannol y BBC i sicrhau'r hawliau i ddarlledu'r caneuon o fis Ionawr ymlaen.

Ffurfiwyd Eos am fod y cerddorion sy'n aelodau ohono yn anhapus â'r taliadau sydd bellach ar gael trwy asiantaeth freindaliadau'r PRS (Performing Rights Society).

Yn y cyfamser mae Myrddin ap Dafydd, Twm Morys a Meirion MacIntyre Huws wedi dweud: "Oni fydd y BBC yng Nghymru yn dod i gytundeb gyda chwmni Eos, gan roi cydnabyddiaeth deilwng a chydradd i gyfansoddwyr Cymraeg, byddwn ni - sydd hefyd wedi trosglwyddo hawliau ein caneuon dan fantell Eos - yn tynnu hawliau darlledu ein barddoniaeth yn ôl oddi wrth y BBC yn ogystal.

"Byddwn yn ymgyrchu i sicrhau bod holl aelodau Barddas a Chwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn gwneud yr un modd."

Yn ôl y beirdd, byddai hynny yn effeithio ar ddarllediadau o Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Cerdd Dant yn 2013.

Yn gynharach ar y Post Cyntaf, dywedodd Dafydd Roberts o Eos, "'Da ni wedi cyfaddawdu, da ni wedi dod lawr yn ein cynnig yn fwy nac y mae'r BBC wedi dod fyny."

Doedd Mr Roberts na Siân Gwynedd, pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, ddim yn barod i ddatgelu'r ffigyrau dan sylw.

Yn ôl Mr Roberts, roedd trafodaethau gyda'r BBC yn parhau ddydd Iau, ond gwnaeth y BBC yn Llundain roi gwybod iddyn nhw yn hwyrach eu bod yn rhoi terfyn ar y trafodaethau, "felly, hwyrach bod Llundain yn dweud wrth Gaerdydd beth i'w wneud".

Mae'r gorfforaeth yn gwadu bod y trafodaethau yn cael eu harwain gan y BBC yn Llundain gan ddweud fod BBC Cymru Wales wedi chwarae rhan ganolog yn y trafodaethau ar hyd yr adeg a bod y cynnig diwethaf i Eos wedi ei wneud gan BBC Cymru Wales.

'Dan y carped'

Dywedodd Dafydd Roberts nad ydy Eos wedi gwrthod parhau gyda thrafodaethau ond eu bod wedi gwrthod y cynnig diweddaraf.

Pan ofynnwyd iddo a oedd y posibilrwydd y byddai'n rhaid i Radio Cymru gwtogi ei horiau darlledu oherwydd nad oes cytundeb yn sefyllfa gwbl hurt, dywedodd: "Ydy, 'da ni wedi bod yn codi hwn ers pum mlynedd, mae'n bechod mai rŵan mae'r BBC yn dechrau sylweddoli bod 'na beryg i hyn ddigwydd.

"Dwi'n ofni eu bod nhw wedi bod yn rhoi hyn o dan y carped ers pum mlynedd.

"Ychydig o flynyddoedd yn ôl fe hanerwyd graddfa Radio Cymru a wnaeth y BBC ddim byd i brotestio bryd hynny... felly mae hi wedi dŵad i'r pen dwi'n ofni."

Gwadodd honiad y BBC bod Eos yn mynnu cael dengwaith yn fwy na graddfeydd y PRS: "Dydy hynny ddim yn wir, fedra i ddim neud e'n gliriach na hynna, mae hynny'n gamarweiniol."

Mae'r BBC yn mynnu bod y ffigwr dan sylw yn ddengwaith cyfradd ddarlledu bresennol y PRS.

Dywedodd Dafydd Roberts "Da ni yn barod i gyfaddawdu. Maen nhw'n son am ffactor o beth oedd graddfeydd PRS, dydy hynny ddim yn help, dydyn nhw ddim yn trafod gyda'r PRS, mae hwn yn gorff newydd yng Nghymru sy'n mynd i drwyddedu cynnyrch y mae Radio Cymru a'r BBC ei angen, felly da ni'n son o'r newydd am beth yw gwerth y gerddoriaeth yna, dydy o'n ddim byd i neud â'r PRS mwyach."

'Siomedig'

Wrth ymateb i Mr Roberts, dywedodd Siân Gwynedd: "Yn amlwg mi ydan ni'n gobeithio y bydd yna gytundeb, ac y bydd gennym ni drefniant mewn lle cyn Ionawr 1af.

"Beth mae'r BBC yn ganolog wedi ei ddweud ydy na fyddwn ni yn rhoi cynnig ariannol sylweddol arall rhwng rŵan a dechrau'r flwyddyn. Dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn ni yn barod i drafod gydag Eos.

"Yn amlwg da ni'n siomedig iawn bod yr holl opsiynau oedd y BBC wedi eu cynnig yn gynharach yr wythnos yma wedi cael eu gwrthod.

"Yn anffodus mi fydd peidio cael y gerddoriaeth yma... yn cael effaith andwyol iawn ar wasanaeth Radio Cymru...

"Mi fyddwn ni edrych ar y math o wasanaeth y byddwn ni'n ei gynnal, yn amlwg mae gynnon ni nifer o raglenni fel newyddion a chwaraeon fydd yn parhau, mi fyddwn ni yn gorfod gostwng yr oriau darlledu... ac yn anffodus wedi gorfod cysylltu ag ymddiriedolaeth y BBC ddoe i'w rhybuddio nhw o'r perygl yna.

"Dyw hynny ddim yn gam da' ni wedi ei gymryd yn ysgafn, yn amlwg mae'n ddifrifol iawn.

"Mae'r BBC wedi bod yn rhan o drio datrys hyn ers blynyddoedd erbyn hyn.

"Yn amlwg roedd PRS yn rhan o'r trafodaethau hynny tan fis Hydref, pan wnaeth y gynghrair sydd erbyn hyn yn Eos gysylltu efo ni, ac wedyn oedd statws y trafodaethau yn newid.

"Felly ers mis Hydref 'da ni wedi bod yn trafod gydag Eos yn rheolaidd, ac wedi gwneud sawl cynnig ariannol."

'Dal i drafod'

Dywedodd o safbwynt y BBC eu bod yn gwbl hyderus bod y cynnig diweddara yn "deg iawn".

"'Da ni'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn rhesymol ac yn gyfrifol o ran ffi'r drwydded a pha mor uchel y'n ni'n gallu mynd - ac ar hyn o bryd mi yden ni yn bell iawn yn ariannol oddi wrth ein gilydd.

"Mae'n bwysig iawn i ni ddweud ein bod ni wedi bod yn cymryd y corff yma o ddifri trwy gydol y trafodaethau ac yn amlwg yn hapus iawn i drafod gydag Eos fel corff.

"Mae'n bosib y byddwn ni yn dal i drafod, ac yn amlwg os ydy Eos yn barod i ddod â chynigion eraill, mi wnewn ni wrando ar rheiny ar unrhyw bwynt.

"Ond allwn ni ddim dal i godi'r cynnig ariannol pan y'n ni meddwl fod y cynnig da ni wedi ei roi yn un teg, ac mae hynny wedi ei wrthod.

"Ein blaenoriaeth ni yw dod i gytundeb... Mae'n gwbl allweddol i Radio Cymru bod ganddon ni gerddoriaeth Gymraeg.

"Mi yden ni wedi rhoi llwyfan amlwg iawn i gerddoriaeth Gymraeg dros yr holl flynyddoedd, ac mi fydda fo'n dorcalonnus pe na bai hynny'n gallu parhau."