Cerddoriaeth Gymraeg: 'Rhaid cael cytundeb'

  • Cyhoeddwyd
Cryno ddisgiau
Disgrifiad o’r llun,

Gallai miloedd o ganeuon beidio a cael eu clywed ar Radio Cymru i Ionawr 1 ymlaen

Mae dau o hoelion wyth y sin roc Gymraeg wedi dweud wrth BBC Radio Cymru bod rhaid cael cytundeb rhwng y BBC ac EOS, y corff sy'n cynrychioli cannoedd o gerddorion a chyfansoddwyr Cymraeg.

Dydy'r ddau gorff ddim wedi dod i gytundeb fyddai'n sicrhau bod gan y gorfforaeth yr hawl i ddarlledu miloedd o ganeuon Cymraeg o fis Ionawr ymlaen.

Ffurfiwyd EOS am fod y cerddorion sy'n aelodau ohono yn anhapus a'r taliadau sydd bellach ar gael trwy asiantaeth freindaliadau'r PRS (Performing Rights Society).

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd y rheolwr a'r cerddor Rhys Mwyn: "Mae'n rhaid ei bod hi'n bosib i ni allu datganoli hawliau cyfansoddi caneuon Cymraeg... i gorff Cymreig, a dyna sy'n digwydd.

"Mae hwn yn rhywbeth hollol hanesyddol efo EOS, ein bod ni'n sefydlu corff Cymreig i edrych ar ôl hawlfreintiau caneuon Cymraeg.

"Peidiwch â throi'r stori i anghydfod y BBC, edrychwch ar wraidd y peth, cyfansoddwyr Cymraeg gollodd mwy na lai eu bywoliaeth, ac wedyn yn sydyn iawn mae'r pwyslais y'ch chi'n rhoi ar hyn rŵan, i ni fod yn pitïo'r BBC.

"'Da chi'n gwybod ers misoedd os nad mwy bod hyn yn mynd i ddigwydd."

'Fframwaith economaidd'

Pan ofynnwyd iddo ar bwy mae'r bai nad yw'r sefyllfa wedi ei datrys hyd yma dywedodd: "Nid mater o roi bai ydi o, 'da chi'n pwysleisio'r lle anghywir yn fan hyn.

"Os da ni eisiau diwydiant cerddoriaeth Gymraeg... rhywbeth sy'n gneud arian ac yn creu bywoliaeth i bobl, os ydyn ni eisiau i hyn i barhau, rhaid i ni wella'r fframwaith economaidd, ac mae hyn yn rhywbeth y dylen ni i gyd ei groesawu.

"Da ni i gyd wedi dweud reit o'r dechrau un, nid ffrae efo'r BBC yw hyn, y PRS, y Performing Rights Society yn Llundain, newidiodd y graddfeydd, ond gofynnwch i'r holl gyfansoddwyr Cymraeg sydd wedi colli eu bywoliaeth sut maen nhw'n teimlo, a dwi'n credu mai'r ateb ydy, does gynnon ni ddim byd i'w golli, felly os oes anghydfod yn codi rŵan, maen nhw i gyd yn fodlon mynd ymlaen â hyn, achos 'da ni'n eistedd yma yn gneud dim pres o gwbl.

"Does neb yn cydymdeimlo efo'r cyfansoddwyr sydd wedi colli eu bywoliaeth, felly peidiwch â newid y stori i fod yn 'O, fydd y BBC ddim yn gallu darlledu caneuon', byddan, fe nawn nhw ddod i gytundeb, ac mae angen iddyn nhw ddod i gytundeb."

'Ar eu colled'

Dywedodd Toni Schiavone: "Mae'n rhaid cael cytundeb, mae'n allweddol i Radio Cymru, yn allweddol i gerddoriaeth Gymraeg, allweddol i'r Gymraeg ei hunan, felly mae'n fater o raid.

"Bydd y naill a'r llall ar eu colled, yn yr ystyr fod y cerddorion a chyfansoddwyr yn ddibynnol ar bobl yn clywed y gerddoriaeth, ond mae'r cyfrwng hefyd yn ddibynnol hefyd ar gael cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth gyffrous a cherddoriaeth gyfoes.

"Un o'r pethau allweddol sydd angen ei ystyried, yw nid yn unig Radio Cymru ond Radio Wales hefyd, dylen ni weld yr un ganran o recordiau Cymraeg ar Radio Wales ac y' ni'n cael o recordiau Saesneg ar Radio Cymru, felly mae angen edrych ar hwn yng nghyd-destun y BBC yn ei chyfanrwydd.

"Mae angen i'r BBC fel corfforaeth ymrwymo i'r Gymraeg fel rhan hanfodol o'r gwasanaeth mae'n ei chynnig i bobl yng Nghymru."

"Fel rhywun sydd â diddordeb mawr a byw iawn yn y byd cerddorol ac wrth gwrs yn y Gymraeg, rwy'n siomedig wrth gwrs nad oes 'na gytundeb ond dwi'n falch iawn bod cwmni fel EOS wedi cymryd yr awenau".

Ychwanegodd bod cerddoriaeth yng Nghymru yn fwy dibynnol ar daliadau hawlfraint nawr nac erioed o'r blaen oherwydd bod cymaint llai o wario ar CDs o'i gymharu â'r gorffennol.

Hefyd gan y BBC