Beirniadu diffyg cofnodion cywir o fwlio homoffobig mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
plentyn yn cael ei fygwrthFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Pedwar awdurdod o'r 22 yn unig oedd â chofnodion o fwlio homoffobig mewn ysgolion

Mae cynghorau Cymru'n cael eu cyhuddo o fethu â chadw cofnodion cywir o fwlio homoffobig mewn ysgolion.

Mae ymchwiliad gan Blaid Cymru wedi canfod nad yw'r rhan fwyaf o awdurdodau yn nodi nifer y digwyddiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn annog pob awdurdod lleol i weithio gydag ysgolion i fynd i'r afael â'r mater.

Pedwar awdurdod o'r 22 yn unig oedd â gwybodaeth am achosion yn ôl gwybodaeth ddaeth i law Plaid Cymru drwy gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ond roedd y mwyafrif yn dweud efallai bod gan ysgolion unigol wybodaeth.

Mae elusen Stonewall Cymru wedi galw ar ysgolion i fod â chynlluniau i ddelio gydag achosion o fwlio homoffobig.

'Pryder'

O'r wybodaeth ddaeth i law Plaid Cymru roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cofnodi a delio gyda 73 o achosion ers mis Medi 2010.

Dywedodd Cyngor Sir Conwy eu bod yn ymwybodol o 18 achos dros yr un cyfnod ac roedd 'na un achos yng Ngwynedd ac un ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae arolwg y blaid yn "bryder" yn ôl llefarydd cydraddoldeb Plaid Cymru, Lindsay Whittle.

"Mae'n dangos bod y mwyafrif o awdurdodau lleol yn y tywyllwch o ran maint bwlio homoffobig ac o bosib bwlio yn gyffredinol," meddai.

"Yn amlwg mae gan rai awdurdodau, fel Ceredigion a Chonwy, systemau mewn lle i gofnodi'r wybodaeth ac mae hynny i'w ganmol.

"Mae gwybod maint unrhyw broblem yn allweddol i ddelio ag o ac mae angen i rywbeth newid.

"Mae angen i ysgolion basio'r wybodaeth ymlaen i awdurdodau lleol ac mae angen i'r awdurdodau lleol ofyn am i'r wybodaeth gael ei basio iddyn nhw."

Cynlluniau cynhwysfawr

Ychwanegodd Mr Whittle y byddai'n codi'r mater yn y Cynulliad yn y Flwyddyn Newydd a bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu i wneud yn siwr bod cofnodion yn cael eu cadw gan awdurdodau.

Dywedodd y byddai'n pasio'r wybodaeth ymlaen i Stonewall Cymru.

Mae'r elusen wedi galw yn ddiweddar ar ysgolion i fod â chynlluniau cynhwysfawr ac effeithiol i daclo bwlio homoffobig.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, bod eu hymchwil yn dangos bod dros hanner pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ifanc Cymru yn cael eu bwlio yn ysgolion Cymru.

"Mae'r ysgolion gorau, yn cynnwys y rhai sy'n cydweithio gyda ni drwy'n rhaglen arbennig, yn monitro pob math o fwlio gan gynnwys bwlio homoffobig," meddai.

"Mae hyn er mwyn ei daclo'n fwy effeithiol.

"Fe ddylai pobl ifanc fod yn canolbwyntio ar ddysgu heb y pryder o gael eu bwlio am y modd y cawson nhw eu geni."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol