Pobol leol yn gobeithio sefydlu mudiad wedi tirlithriad Ystalyfera
- Cyhoeddwyd
Mae pobol leol yn gobeithio sefydlu mudiad yn Ystalyfera ar ôl cyfarfod cyhoeddus.
Roedd 150 o bobl yn bresennol yn y neuadd gymunedol nos Iau yn trafod y tirlithriad diweddar.
Nod y mudiad fydd pwyso ar y cyngor i wneud gwaith diogelwch ond mae'r cyngor wedi dweud y bydd gwaith cychwynnol o fewn dyddiau.
Ar Ragfyr 22 llithrodd miloedd o dunelli o bridd yn ardal Pant-teg yn sgil y glaw diweddar.
Bu'n rhaid i drigolion 13 o gartrefi symud ac mae wyth o deuluoedd wedi eu cynghori i beidio â dychwelyd tra bod peirianwyr yn asesu'r sefyllfa.
Mae un o'r priffyrdd ar gau bron pythefnos wedi'r tirlithriad a chryn feirniadu ynglŷn â'r oedi cyn clirio'r annibendod.
Ansefydlogi
Dywedodd swyddogion y cyngor fod y glaw dros wyliau'r Nadolig wedi ansefydlogi'r tir ymhellach.
"Mae'n bryd i ni sefyll 'da'n gilydd," meddai'r cynghorydd cymunedol lleol Tony Randall wrth y cyfarfod.
"Os y'n ni'n sefyll ar ben ein hunen ewn ni ddim i unlle."
Dywedodd y Cynghorydd Rosalyn Davies, sy'n cynrychioli ardal Godre'r Graig ar Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, y byddai'r mudiad yn rhoi pwysau ar y cyngor i wneud y gwaith angenrheidiol.
Pryderon
Roedd y cyngor wedi gwneud gwneud gwaith clirio yn yr ardal cyn y Nadolig wedi pryderon rhai trigolion.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae peirianwyr arbenigol wedi bod yn archwilio.
"Mae'r sefyllfa'n ansefydlog ac roedd pryder am y tir sy' ddim wedi symud.
"Felly mae angen archwilio er mwyn gwybod beth yn gymwys yw'r sefyllfa."
Mae'r trigolion wedi cael gwybod y bydd cwmni o arbenigwyr yn gwneud y gwaith clirio ac unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen.
Ond mae'n debyg na fydd gwaith clirio tan y bydd adroddiad ddiwedd y mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2012