Ysgol John Beddoes i golli ei chweched dosbarth?
- Cyhoeddwyd
Gallai rhai myfyrwyr ym Mhowys orfod teithio i Loegr i dderbyn eu haddysg os bydd cynllun i gael gwared ag addysg ôl 16 yn cael ei gymeradwyo.
Ddydd Mawrth bydd cabinet Cyngor Powys yn trafod cais i beidio ariannu unrhyw gwrs ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 yn Ysgol Uwchradd John Beddoes, Llanandras o fis Medi ymlaen.
Yn ôl adroddiad fydd yn mynd gerbron y cabinet, dim ond wyth myfyriwr blwyddyn 12 sydd yn astudio cyrsiau yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Dywed yr adroddiad fod hyn yn costio £20,850 y disgybl.
Mesurau arbennig
Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, Ysgol John Beddoes fyddai'r un gyntaf ym Mhowys i golli ei chweched dosbarth.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai arian fod ar gael i alluogi'r myfyrwyr hyn i orffen eu cyrsiau yn 2014, ond ni ddylai unrhyw gwrs blwyddyn 12 gael ei ariannu o fis Medi.
Daw'r argymhelliad fis ar ôl i fesurau arbennig gael eu gosod ar Ysgol John Beddoes yn dilyn adroddiad beirniadol gan Estyn.
Mae'r pum cynghorydd sir sy'n cynrychioli pobl sy'n byw o fewn dalgylch yr ysgol wedi datgan eu pryder ynglŷn ag effaith y cynllun ar ddisgyblion.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y cynghorwyr y byddai cydweithio ag Ysgol Lady Hawkins yn Kington, sydd dros y ffin yn Lloegr, yn galluogi addysg ôl 16 i barhau yn yr ardal.
Maen nhw'n annog y cabinet i ystyried yr opsiwn hwn cyn dileu'r cyllid.
Yn ôl y datganiad, gallai cael gwared â chweched dosbarth Ysgol John Beddoes arwain at ddisgyblion iau yn cael eu trosglwyddo i ysgolion eraill sy'n cynnig addysg ôl 16, fyddai'n effeithio ar safonau'r ysgol.
Mae'r cynghorwyr wedi annog y cabinet i ohirio unrhyw benderfyniad am y cynllun tan i'r manylion llawn ynglŷn ag effaith ar ddisgyblion gael eu cyflwyno mewn adroddiad i gyfarfod nesaf y cabinet.
Diffygion
Fe wnaeth arolygwyr Estyn ymweld ag Ysgol John Beddoes ym mis Hydref cyn cyhoeddi adroddiad beirniadol ynghylch safonau'r ysgol ym mis Rhagfyr.
Mae swyddogion o Bowys a Cheredigion wedi cael eu hanfon i'r ysgol er mwyn cefnogi'r staff.
Mae'r cyngor sir nawr yn llunio cynllun i fynd i'r afael â'r diffygion a gofnodwyd yn yr adroddiad.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Estyn ac yna bydd arolygwyr yn ymweld yn gyson â'r ysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys nad oedd y cais fydd yn mynd gerbron y cabinet ddydd Mawrth yn rhan o'r cynllun i fynd i'r afael â diffygion yr ysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012