Y Frenhines Elizabeth II wedi 'gofalu am y Gymanwlad'

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines ar ymweliad ag Awstralia yn 2006Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines ar ymweliad ag Awstralia yn 2006

Pan esgynnodd y Frenhines i'r Orsedd yn 1952, roedd talpiau helaeth o fap y byd yn dal wedi'u lliwio'n goch i gynrychioli sgôp yr Ymerodraeth Brydeinig, er bod India eisoes wedi cael ei hannibyniaeth.

Yn ystod y ddau ddegawd wedi hynny daeth nifer o gyn-drefedigaethau Prydain yn wledydd annibynnol.

Roedd nifer o arweinwyr newydd y Gymanwlad o'r un genhedlaeth â'r Frenhines, ac fe ddaeth i'w hadnabod nhw, a'u problemau, yn dda iawn.

Ei rôl oedd bod yn symbol diduedd o undod, gan gynrychioli'r delfrydau yr oedd y Gymanwlad yn anelu amdanynt.

Yn ôl Syr Shridath "Sonny" Ramphal, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad o 1975 i 1990: "Fe wnaeth hi gyfleu drwy ei bywyd, ei harddull, ei hymarweddiad a'i pherthnasau, deimlad o ofalu am y Gymanwlad."

'Ffactor sefydlog'

Dywedodd cyn-lywydd Nigeria, Olusegun Obasanjo, yn 2002 bod y Frenhines yn "ffenomen wych ar gyfer y Gymanwlad".

"Mae hi wedi bod yn fodd o sefydlogi ac yn ddynes wych, wych," meddai.

Fe wnaeth y Frenhines ymweld â phob gwlad yn y Gymanwlad o leiaf unwaith.

Roedd hi hefyd yn gwahodd arweinwyr y Gymanwlad i gyfarfodydd byr, anffurfiol gyda hi bob dwy flynedd yn ystod Cyfarfod Penaethiaid Llywodraeth y Gymanwlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf newid gwleidyddol enfawr yn Ne Affrica, fe arhosodd y wlad yn rhan o'r Gymanwlad

"Roedd hi'n gweld pob pennaeth llywodraeth am 20 i 30 munud mewn sesiwn breifat," meddai Syr Ramphal.

"Roedd hi wastad yn paratoi'n drylwyr.

"Waeth pa mor weriniaethol neu radical fyddai'r arweinydd, roedd y cyfarfod gyda'r Frenhines yn un pwysig."

Fel pennaeth y Gymanwlad, doedd gan y Frenhines ddim grym, ond roedd ganddi ddylanwad.

Pe bai arweinwyr yn dod ati hi â phroblemau, fe allai weithiau fod o gymorth wrth ddod o hyd i ateb.

'Dylanwad pwerus'

Weithiau rhoddwyd prawf ar allu'r Frenhines i uno pobl, yn fwyaf felly cyn Cyfarfod Penaethiaid Llywodraeth y Gymanwlad ym mhrifddinas Zambia, Lusaka, yn 1979.

Roedd y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, wedi mynd benben â mwyafrif arweinwyr y Gymanwlad drwy wrthod cefnogi sancsiynau yn erbyn De Affrica.

Fe wnaeth dyfodol Rhodesia hefyd achosi hollt ymhlith arweinwyr y Gymanwlad ar y pryd.

Roedd lluoedd Prif Weinidog Rhodesia, Ian Smith, wedi bod yn bomio canolfannau'r Patriotic Front yn Lusaka rai dyddiau ynghynt.

Ffynhonnell y llun, Anwar Hussein
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Frenhines wrthsefyll y pwysau i beidio â mynychu'r cyfarfod yn Lusaka yn 1979

Roedd ei weithredoedd wedi ysgogi Robert Muldoon o Seland Newydd ac eraill i annog y Frenhines i beidio â mynychu'r cyfarfod.

Ond fel mae Syr Ramphal yn dwyn i gof, fe wnaeth hi wrthsefyll y pwysau hynny.

"Fe'i gwnaeth yn eglur i bob arlywydd, pob prif weinidog, du a gwyn, hen a newydd, nad oedd y Gymanwlad i dorri a bod yn rhaid i'r Gymanwlad ddod o hyd i gonsensws," meddai.

"Felly roedd hwnna'n ddylanwad pwerus yn cael ei weithredu ar gefn ac ar gryfder ei bri nodedig hi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines gyda rhai o arweinwyr gwledydd y Gymanwlad wedi cynhadledd yn Llundain ym mis Ebrill 2018

Fe wnaeth y Frenhines weithio i gael consensws yn yr hyn y mae nifer yn ei weld fel awr fawr y Gymanwlad.

Dywedodd yr arbenigwr ar wleidyddiaeth ryngwladol, Howard Williams: "Mae'n rhaid derbyn bod y Frenhines Elizabeth wedi chwarae rhan bwysig ar frig y sefydliad gwleidyddol ym Mhrydain ac wedi bod yn ddigon diduedd yn y ffordd mae hi wedi trin gwleidyddiaeth fewnol Prydain, ond hefyd gyda gwleidyddiaeth ryngwladol.

"Mae hynny wedi bod yn help i roi rhyw fath o gyfeiriad, ac arweiniad hefyd."

Llwyddiannau llai amlwg

Er ei hymrwymiad iddo, ymylol oedd y Gymanwlad ar y llwyfan rhyngwladol o'i gymharu â chyrff pwerus fel y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd.

Mae ei llwyddiannau wedi bod mewn meysydd llai amlwg fel gweithgareddau diwylliannol, gwyddoniaeth ac addysg.

Mae hefyd wedi darparu fforwm defnyddiol ar gyfer deialog rhwng hemisfferau'r de a'r gogledd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cytunwyd yn 2018 y byddai'r Tywysog Charles yn olynu'r Frenhines fel pennaeth y Gymanwlad

Yn 2018 cyhoeddwyd y byddai mab y Frenhines, y Tywysog Charles yn ei holynu fel pennaeth y Gymanwlad pan fyddai'n dod yn Frenin.

Bu arweinwyr gwledydd y Gymanwlad yn trafod y mater yng nghastell Windsor.

Dywedodd prif weinidog y DU ar y pryd, Theresa May ei bod hi'n "briodol" mai'r Brenin newydd fyddai'n olynu'r Frenhines oherwydd ei "gefnogaeth falch" o'r Gymanwlad.

Gwledydd yn gadael?

Mae aelodaeth y Gymanwlad yn wirfoddol, ac fe allai rhai gwledydd benderfynu gadael y sefydliad yn llwyr.

Mae gweriniaethwyr yn Awstralia, er enghraifft, yn credu y gallai marwolaeth y Frenhines fod yn gyfle i gynnal refferendwm ar a ddylai pennaeth y Teulu Brenhinol fod yn bennaeth y wladwriaeth yno.

Cafodd rôl Elizabeth II o fewn y Gymanwlad erioed ei gwestiynu.

I'r Frenhines, roedd y Gymanwlad yn deulu, a dywedodd unwaith y gallai ei "bŵer iachusol o oddefgarwch, brawdoliaeth a chariad" ddylanwadu ar faterion rhyngwladol.