Angen datblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Plant yn chwarae gyda thywod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn rhestru nifer o argymhellion i wella'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg

Mae plant yng Nghymru yn llwyddo i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn dda yn ystod y Cyfnod Sylfaen, yn ôl adroddiad newydd.

Dywed Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant ar gyfer Cymru, fod plant yn y mwyafrif o ysgolion cyfrwng Saesneg yn gwneud cynnydd da o ran siarad a gwrando ar Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar.

Ond maen nhw'n rhybuddio nad yw sgiliau darllen ac ysgrifennu'r plant yn cael eu datblygu gystal.

Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn: "Yr Iaith Gymraeg yw un o'r saith Maes Dysgu yn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen ar gyfer Dysgu Plant.

"Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn cael ei wneud mewn Datblygu'r Iaith Gymraeg yn y mwyafrif o ysgolion a lleoliadau. Mae plant yn mwynhau dysgu iaith Cymru mewn ffyrdd arloesol sy'n hwyl.

"Yn yr ysgolion gorau, mae'r athrawon yn fedrus iawn ac yn angerddol, ac maen nhw'n cynllunio gweithgareddau ysgol a difyr sy'n ennyn diddordeb ac yn cyffroi'r plant; ond mewn lleiafrif o ysgolion a lleoliadau nid yw'r staff yn neilltuo digon o amser addysgu uniongyrchol i ddatblygu'r iaith Gymraeg, ac mae bylchau yng ngwybodaeth a medrau'r ymarferwyr sy'n rhwystro dysgu a datblygiad y plant."

Diffyg hyder

Canfu'r arolygiaeth hefyd fod cynnydd plant mewn Datblygu'r Iaith Gymraeg yn bryder mewn dros draean o leoliadau cyfrwng Saesneg.

Yn y lleoliadau hyn, nid yw'r hyder gan y plant i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i sesiynau grŵp byr, fel amser cofrestru neu sesiynau canu, ac nid ydyn nhw'n defnyddio'r Gymraeg yn eu chwarae na'u dysgu heb anogaeth gan oedolion.

"Mae angen i ysgolion a lleoliadau adolygu, arfarnu a chynllunio ffyrdd apelgar ac effeithiol i blant siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg ar draws yr holl feysydd dysgu," meddai Ms Keane.

Esboniodd fod yr ysgolion gorau yn defnyddio profiadau bywyd go iawn i'r plant ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg, fel llunio rhestrau siopa neu ysgrifennu gwahoddiadau i barti.

Mae'r arolygiaeth yn amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion a lleoliadau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Er enghraifft, mae'n awgrymu y dylai ysgolion a lleoliadau arfarnu eu cynllunio i sicrhau bod digon o gyfleoedd i'r plant ddefnyddio'r Gymraeg mewn meysydd dysgu eraill neu mewn gweithgareddau awyr agored, a dylen nhw fynd ati i fonitro ac arfarnu datblygiad y plant o ran eu sgiliau ieithyddol.

Hefyd, mae'r adroddiad yn argymell bod angen i awdurdodau lleol ddarparu mynediad gwell at gymorth a hyfforddiant iaith Gymraeg i ymarferwyr, yn ogystal â rhannu arfer da.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol