Pryder am ddyfodol papurau Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder y bydd cynlluniau i gael gwared ar swyddi papur newydd yng Nghymru'n golygu na fydd cymaint o sylw i straeon Cymreig, ac y gallai cyhoeddiadau ddiflannu'n llwyr.
Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ), mae 11 o swyddi yn y fantol gyda grŵp Trinity Mirror yng ngogledd Cymru a Lerpwl.
Byddai'r newidiadau'n effeithio ar bapurau newydd fel y Daily Post a rhai papurau wythnosol.
Dywed yr NUJ y byddai'r newidiadau'n bygwth llawer iawn o gynnwys Cymreig y cyhoeddiadau.
Yn ôl Trinity Mirror, mae'r newid yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol y cyhoeddiadau a dywedon nhw fod swyddi hefyd yn cael eu creu.
Daeth i'r amlwg yr wythnos ddiwetha' y byddai pedwar o bobl yn colli'u gwaith gyda'r Daily Post, sy'n gohebu ar ogledd Cymru.
'Ergyd fawr'
Ond mae'r NUJ nawr yn honni y gallai 11 o swyddi fod yn y fantol yng ngogledd Cymru a Lerpwl.
Dywedodd Elgan Hearn, o'r NUJ yng ngogledd Cymru, fod y cyhoeddiad yn "ergyd i'r timau newyddion sydd eisoes dan bwysau yn yr ardal".
Dywedodd fod staff wedi ymdopi gyda threfn newydd o weithiau, shifftiau a gofynion prosiect digidol a bod y toriadau yn "ergyd fawr".
"Yn ein rhan ni o'r cwmni, 'da ni'n teimlo fod y rheolwyr yn Lerpwl wedi'n gadael ni lawr a'u bod yn symud swyddi lawr yr A55 i Lerpwl, er mwyn rhoi hwb i'r Liverpool Echo.
"Dwi'n teimlo'u bod ni'n colli swyddi yng ngogledd Cymru er mwyn arbed rhai yn Lerpwl."
'Amherthnasol'
Yn ôl Mr Hearn, fyddai 'uned rhannu cynnwys' sy'n cael ei sefydlu yn Lerpwl ddim yn cynhyrchu erthyglau nodwedd fyddai'n berthnasol i ddarllenwyr yng Nghymru.
"Mae 'na bedair swydd yn y fantol yn y gogledd - golygydd a newyddiadurwr o'r adran nodwedd, a dau newyddiadurwr cyffredinol.
"Mae 'na beryg na fydd yna'r un feature writer yng Nghymru o gwbl," meddai.
Mae cytundeb ag asiantaeth newyddion y Press Association, i ddarparu erthyglau am ogledd Cymru ac Aelodau Seneddol y gogledd sy'n siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, hefyd wedi dod i ben.
"Mae llawer o'n teitlau ni â hanes sy'n deillio'n ôl 150 mlynedd.
"Maen nhw wedi goroesi dyfodiad radio a theledu, ond mae'n rheolwyr ni fel 'tasan nhw'n meddwl nad oes modd goroesi'r oes ddigidol na dysgu sut i elwa ohoni.
"Y gwir amdani ydy y gallwn ni ddiflannu'n llwyr yn y dyfodol agos, y ffordd mae pethau'n mynd."
Cefnogaeth wleidyddol
Mae'r undeb yn dweud eu bod nhw wedi cael cefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol yn y gogledd, gan gynnwys Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llyr Huws-Griffiths, a ddywedodd:
"Bydd symud swyddi golygyddol i Lerpwl yn golygu llai o ddealltwriaeth o faterion, diwylliant a hunaniaeth Cymreig ac rwy'n ofni y gallai'r papur ddiodde' o ganlyniad, gyda llai o bobl yn ei brynu."
Meddai Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts: "Un o'r heriau mwya' sy'n ein hwynebu fel gwleidyddion o ogledd Cymru yn y cynulliad yw'r modd mae cyfryngau Lloegr yn ymdrin â ni, sy'n effeithio ar ddealltwriaeth y cyhoedd o ba feysydd sydd wedi'u datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghaerdydd yn y meysydd hynny."
Cyhoeddwyd yr wythnos ddiwetha' y byddai 16 o swyddi'n mynd gyda grŵp Media Wales yng Nghaerdydd, wrth i Trinity Mirror ddweud y byddan nhw'n cael gwared ar 92 o swyddi, ond gan greu 52 o swyddi ar draws Cymru a Lloegr.
Mewn datganiad, dywedodd Trinity Mirror eu bod yn gobeithio y byddai'r rhan fwyf o ddiswyddiadau'n rhai gwirfoddol, gyda staff eraill yn cael eu symud i swyddi newydd lle bo modd.
"Mae'r swyddi golygyddol newydd yma'n cynnwys rhai digidol mewn ystafelloedd newyddion lleol i gefnogi uchelgais digidol Trinity Mirror, gan gynnwys sefydlu cyhoeddiadau electronig.
"Mae uned rhannu cynnwys hefyd yn cael ei sefydlu i gynhyrchu deunydd o ansawdd uchel, sydd ddim yn lleol, ar bynciau fel iechyd, teithio, ffasiwn, bwyd, adloniant ac adolygiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011