Aelodau Seneddol o blaid priodasau hoyw
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid deddf sy'n rhoi'r hawl i gyplau hoyw briodi yng Nghymru a Lloegr.
Y bleidlais oedd 400 i 175, sef mwyafrif o 225.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron fod hwn yn "gam arwyddocaol" fyddai'n cryfhau cymdeithas.
Y gred yw bod tua 140 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi pleidleisio yn erbyn y mesur.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Tim Loughton: "Roedd hefyd ychydig o Aelod Seneddol Llafur a phedwar o'r Democratiaid Rhyddfrydol."
"Os oedd 132 o Aelodau Seneddol Ceidwadol o blaid, roedd mwy yn erbyn."
Pleidleisiodd pob Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru yn erbyn a'r ddau aelod Llafur, Paul Murphy a Dai Havard.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg: "Dwi'n credu y byddwn ni'n ystyried hyn yn garreg filltir ... mae'r bleidlais heno yn dangos bod y Senedd yn cefnogi priodas gyfartal yn fawr.
'Ymroddiad'
"Does dim gwahaniaeth pwy yr ydych chi na phwy yr ydych yn ei garu, rydyn ni i gyd yn gyfartal.
"Mae priodi'n ymwneud â chariad ac ymroddiad ..."
Cafodd yr Aelodau Seneddol bleidlais rydd - nid oedd chwipiau'r pleidiau yn eu gorfodi.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband: "Mae hwn yn ddiwrnod balch ac yn gam pwysig yn yr ymgyrch i gael cydraddoldeb ym Mhrydain.
"Roedd mwyafrif llethol ein Haelodau Seneddol o blaid y mesur oherwydd mae priodas yn arwydd o gydberthnasau cariadus a thymor hir."
Mae pasio'r mesur ar yr ail ddarlleniad yn golygu bod Aelodau Seneddol yn ei gymeradwyo mewn egwyddor.
Y cam nesa' fyd craffu ar y mesur yn fanylach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013