Pleidlais ar fesur priodasau hoyw

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bleidlais ar briodasau hoyw yn 'fater o gydwybod', yn ôl Ysgrifennydd Cymru

Mae Aelodau Seneddol wedi dechrau trafod cynlluniau i roi'r hawl i gyplau hoyw briodi, cyn i bleidlais gael ei chynnal yn Nhŷ'r Cyffredin.

Bydd aelodau'n pleidleisio tua 7:00pm nos Fawrth.

Mae disgwyl i bob un o Aelodau Seneddol Cymreig y Blaid Geidwadol wrthwynebu'r mesur ond y disgwyl yw y bydd yn cael ei basio, wrth i bleidiau eraill gefnogi'r cynlluniau.

Mae'r wyth aelod Ceidwadol o Gymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cynlluniau.

Wrth drafod y mesur brynhawn dydd Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller, y dylai cyplau sy'n penderfynu ymrwymo am weddill eu hoes allu galw'r berthynas yn briodas.

Mynnodd y byddai'r mesur yn amddiffyn rhyddid crefyddol a "ddim yn anwybyddu'r rhai hynny sy'n credu y dylai priodas fod yn rhywbeth rhwng dyn a dynes".

Mae'r mater wedi achosi rhwyg o fewn y blaid Geidwadol, ac mae disgwyl i sawl Aelod Seneddol ddefnyddio'u pleidlais rydd i fynd yn erbyn y mesur.

Bydd aelodau Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru'n cefnogi'r cynlluniau, yn ogystal â nifer helaeth o ASau Llafur - ond mae disgwyl i gyn Ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy, eu gwrthod.

Yn ôl Mr Murphy, mae'n gwrthwynebu ailddiffinio priodas, er ei fod yn cefnogi partneriaethau sifil.

Pleidlais rydd

Gan fod ganddynt bleidlais rydd, gall ASau ddewis yn ôl eu cydwybod yn hytrach na chydfynd â safbwynt eu plaid.

Ond mae'r cynlluniau wedi cael cefnogaeth gref gan y Prif Weinidog David Cameron.

Byddai'r Mesur Priodas Gyfartal yn galluogi cyplau o'r un rhyw i briodi mewn seremonïau sifil neu grefyddol - petai'r sefydliad crefyddol wedi cytuno - yng Nghymru a Lloegr.

Byddai hefyd yn caniatáu cyplau sydd eisoes mewn partneriaeth sifil i newid eu perthynas yn briodas.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, a'r gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, mae'r bleidlais yn fater o gydwybod. Roedd y ddau yn gwrthod gwneud cyfweliadau ar y mater.

Hawliau

Mae dau aelod Ceidwadol blaenllaw wedi datgan eu barn ar y mesur.

Dywedodd Peter Davies, cyn aelod o fwrdd rheoli'r Ceidwadwyr Cymreig, ei fod "o blaid partneriaethau sifil yn llwyr" ond ei fod yn credu yn "niffiniad crefyddol priodas - dyn a dynes".

Ond dywedodd Rene Kinzett, cadeirydd Grŵp Diwygio'r Ceidwadwyr yng Nghymru, y byddai newid yn y gyfraith yn "cydnabod fod gan gyplau o'r un rhyw'r un hawliau a'r un cyfrifoldebau â dyn a dynes sydd mewn perthynas".

Hon fydd y drafodaeth a'r bleidlais gynta' ar y Mesur yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae adroddiadau'n awgrymu y gallai dros 120 o ASau Ceidwadol wrthwynebu'r cynlluniau, gan gynnwys rhai gweinidogion cabinet.

Ond mae disgwyl i'r mesur gael ei basio, gyda'r rhan fwya' o aelodau Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gefnogi.

Ddydd Sul fe aeth dros 20 o gyn gadeiryddion etholaethol â llythyr i rif 10 Downing Street, yn galw ar y Prif Weinidog i ohirio'r penderfyniad ar briodasau hoyw tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesa'.

Roedden nhw'n dadlau y gallai'r mesur, petai'n dod yn ddeddf, "niweidio'r Blaid Geidwadol yn sylweddol wrth wynebu'r etholiad yn 2015".

Ond mae'r Ysgrifennydd Diwylliant, sy'n arwain y mesur trwy'r Senedd, wedi amddiffyn y cynlluniau, gan ddweud fod priodas wedi esblygu fel sefydliad ar hyd y blynyddoedd ac y byddai'n parhau i wneud hynny.