Adroddiad Stafford: ACau'n trafod

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Stafford
Disgrifiad o’r llun,

Adroddiad am Ysbyty Stafford: Angen trafod oblygiadau

Bydd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, yn ymateb i adroddiad damniol i fethiannau yn ysbyty Stafford yn ddiweddarach.

Bydd nifer o Aelodau Cynulliad eraill hefyd yn cynnal cyfarfod i ddechrau trafod oblygiadau yr adroddiad ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd cadeirydd y pwyllgor iechyd, Mark Drakeford AC, fod yr adroddiad yn berthnasol iawn i'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru.

"Rhaid i ni ddysgu am beth sydd wedi mynd ymlaen yn Stafford ac ystyried yr adroddiad yn fanwl."

Dywedodd Mr Drakeford fod rhai argymhellion yn yr adroddiad "sy'n berthnasol heb amheuaeth", er enghraifft byddai unrhyw gynllun i gofrestru pobl sy'n gweithio mewn ysbytai a chartrefi preswyl yn Lloegr yn cael effaith yng Nghymru meddai.

'Moesol'

"Ond yn sylfaenol, pethau moesol ydyn nhw, rhywbeth am y diwylliant o sut rydyn ni'n edrych ar ôl pobl sy'n fregus, pobl sy'n dost, trio tynnu mas pethau fel yna sy'n bwysig i fi."

"Ni yn lwcus yng Nghymru dwi'n meddwl, achos mae rhai pethau yn ein system ni sy'n helpu ni, a ma' nhw wedi colli pethau fel yna yn Lloegr... mae Cyngor Iechyd Cymuned ymhob rhan o Gymru... mae Arolygiaeth annibynnol gyda ni nawr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd wedi bod gyda ni dros y degawd diwethaf, sy'n gwneud lot o bethau mae adroddiad Francis yn cyfeirio atyn nhw hefyd.

"Ar lefel y ward, mae polisiau gyda ni fel rhyddid i arwain, rhyddid i ofalu sy'n rhoi'r pwerau i bobl sy'n gweithio ar y front line ar y wardiau i helpu pobl sy fewn am driniaeth a phethau fel yna."

Yn dilyn cyfarfod ddydd Iau o bwyllgor iechyd y Cynulliad, bydd ACau yn cwrdd ag arbenigwyr o'r maes gan gynnwys cynrychiolwyr Cydffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd a chadeirydd Bwrdd Iechyd Bro Taf, Dr Chris Jones i ddechrau trafod y gwersi sydd angen eu dysgu o'r adroddiad.

Ddydd Mercher dywedodd prif gyfreithiwr yr ymchwiliad cyhoeddus i'r methiannau yn Ysbyty Stafford, Peter Watkin Jones, fod angen newid diwylliant yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Yn ôl Mr Watkin Jones, mae angen newid agweddau ar bob lefel yn y gwasanaeth iechyd fel bod buddiannau cleifion yn cael eu rhoi uwchlaw popeth er mwyn sicrhau nad yw sgandal Ysbyty Stafford yn cael ei hailadrodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol