Castell Aberteifi: Seremoni i dorri tywarchen
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith adfer Castell Aberteifi ar gost o bron £12m wedi cael ei nodi mewn seremoni arbennig ddydd Gwener, pan gafodd tywarchen ei thorri.
Roedd Cyfarwyddwr CADW, Marilyn Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac un o ymddiriedolwyr Cadwgan, y Cynghorydd Mark Cole, a Dr Madeleine Harvard, aelod o bwyllgor Cronfa Dreftadaeth Loteri Cymru, yn bresennol.
Y cwmni adeiladu Andrew Scott sydd wedi ennill y cytundeb i adfer y tŷ a'r gerddi yn ogystal â'r adeiladau allanol o fewn muriau'r castell.
Bydd y safle'n ailagor ym mis Ebrill 2014 fel atyniad i ymwelwyr.
Mae'r safle 900 mlwydd oed yn cael ei ddatblygu fel "cyfleuster amlbwrpas" ar gyfer y gymuned.
Yno bydd lle i gynnal gweithgareddau'n ymwneud â'r iaith Gymraeg, diwylliant, crefftau, yr amgylchedd ac astudiaethau garddwriaethol.
Yn ogystal bydd y safle'n cynnwys llety, canolfan dreftadaeth, bwyty, gardd yr Eisteddfod gyda tho symudol, a lle i gynnal cyngherddau awyr agored.
Eisteddfod
Bydd hefyd yn gartref i'r unig arddangosfa Eisteddfodol barhaol.
Mae'r ymddiriedolaeth sydd wedi'i sefydlu er 1999 i achub Castell Aberteifi wedi sicrhau £4.7m oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £4.3m oddi wrth Gronfa Ddatblygu Rhanbarthau Ewrop.
Ym mis Mehefin 2012, dyfarnodd y Grant Trosglwyddo Asedau Cymunedol y byddai'r prosiect yn derbyn bron i £800,000.
Codwyd y castell yn 1100 gan Gilbert de Clare, Iarll cyntaf Penfro.
Yn 1166 cipiodd Rhys ap Gruffydd y castell a'i droi'n gaer garreg yn 1171.
Yn 1176 cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf, yn ôl rhai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012