Tlws FA: Wrecsam yn ennill yn erbyn Gainsborough

  • Cyhoeddwyd
Danny WrightFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Danny Wright gafodd gôl gyntaf Wrecsam yn eu buddugoliaeth o 3-1 yng nghymal cyntaf rownd gyn-derfynol Twls yr FA

Wrecsam 3-1 Gainsborough

Mae Wrecsam gam yn nes at gyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA ar ôl ennill cymal cyntaf y rownd gyn-derfynol yn erbyn Gainsborough ar y Cae Ras.

Wedi deunaw munud fe lwyddodd Danny Wright i sgorio ei gôl gyntaf yn y gystadleuaeth i roi Wrecsam ar y blaen.

Dyma 14eg gôl Wright dros Wrecsam y tymor yma.

Cafodd ergyd Brett Ormerod ei harbed yn flêr gan geidwad Gainsborough a aeth yn syth i lwybr Wright a lwyddodd i dwyllo'r golwr a chanfod y rhwyd.

Ond o fewn pum munud fe gollodd Wrecsam gyfle euraidd wrth i Robert Ogleby groesi'r bêl yn llydan o flaen gôl agored ac fe gollodd Wright gyfle arall wrth ergydio uwchben y gôl.

Fe ddylai Wrecsam fod wedi bod ar y blaen yn gyfforddus 3-0 o fewn yr hanner awr cynta'.

Ond yn erbyn llif y chwarae fe wnaeth Wrecsam dalu'r pris am y camgymeriadau wrth i Darryn Stamp benio dros yr ymwelwyr.

Roedd Jay Harris yn lwcus yn yr hanner cyntaf i beidio â gweld cerdyn ar ôl tacl uchel, beryglus.

Camgymeriadau

Cyn yr hanner roedd Gainsborough yn rhoi pwysau ar Wrecsam a'r ddau dîm yn methu manteisio ar sawl cyfle wrth i'r gêm symud o un pen i'r cae i'r llall.

Cychwynnodd yr ail hanner gyda Wrecsam yn methu manteisio ar gyfleon da.

Camgymeriadau gan Wrecsam oedd yn gyfrifol am y cyfleon i'r ymwelwyr, cyfleon na wnaethon nhw fanteisio'n llawn arnyn nhw.

Ond pum munud ar ôl dod ymlaen fel eilydd fe wnaeth Adrian Cieslewicz ddangos rhywfaint o ddewiniaeth wrth iddo gladdu'r bêl i gefn y rhwyd.

Fe ddaeth ar ôl i Gainsborough fethu cic rydd a'r bêl yn syth i hanner yr ymwelwyr a'r eilydd yn cymryd mantais o gamgymeriad.

Fe ddaeth rheolwr chwaraewr Wrecsam, Andy Morell, ymlaen i'r cae ar gyfer y 10 munud olaf.

Yn syth cafodd gyfle i roi ei dîm ymhellach ymlaen ond taro'r rhwyd ochr wnaeth ei ymdrech.

Cafodd Cieslewicz a Harris cyfleoedd hefyd cyn diwedd y 90 munud.

Ond ddau funud i mewn i'r amser a ganiatawyd am anafiadau fe lwyddodd gôl-geidwad yr ymwelwyr i arbed ergyd Morell aeth yn syth at droed Neil Ashton lwyddodd i ganfod cefn y rhwyd.

Mae'n rhoi mantais bellach i'r Dreigiau cyn yr ail gymal yn stadiwm Northolme Gainsborough yr wythnos nesaf a Stadiwm Wembley yn agosáu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol