Wrecsam hefyd yn mynd i Wembley
- Cyhoeddwyd
Gainsborough Trinity 2-1 Wrecsam (3-4 ar gyfanswm goliau)
Gyda Wrecsam ar y blaen o 3-1 wedi'r cymal cyntaf yn y Cae Ras, roedd y gobeithion yn uchel y byddai'r Dreigiau yn llwyddo yn rownd gynderfynol Tlws yr FA.
Gyda Chaerdydd a Chasnewydd yn cyrraedd Wembley y tymor diwethaf ac Abertawe yn disgwyl eu cyfle ddydd Sul, gobaith Wrecsam oedd bod y pedwerdydd tîm o Gymru i chwarae ym mhencadlys pêl-droed Lloegr o fewn 12 mis.
Dyma fydd taith gyntaf Wrecsam i Wembley - fe enillon nhw Dlws y Gynghrair yn 2005 pan oedd y rownd derfynol yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.
Pan aeth Wrecsam ar y blaen o droed Danny Wright gydag ergyd wych, roedd hi'n ymddangos bod yr ornest drosodd i bob pwrpas, ond o fewn eiliadau bron fe arweiniodd dryswch yn amddiffyn Wrecsam am gôl i'r tîm cartref.
Cyfartal ar y diwrnod felly, ond Wrecsam yn parhau â'r fantais dros y ddau gymal, ac roedd hynny'n bwysig.
Gyda phum munud yn weddill, fe sicrhaodd Gainsborough y byddai'n ddiweddglo nerfus iawn i dîm Andrew Morrell gan ei gwneud hi'n 2-1 ar y diwrnod.
Y cyfan oedd angen i Wrecsam wneud oedd peidio ildio eto, ond fe gafodd y tîm cartref ddau gyfle gwych yn yr eiliadau olaf.
Arbediodd Chris Maxwell dau gynnig da, ac fe gliriwyd un arall oddi ar y llinell wrth i'r Dreigiau ddal eu gafael ar y fantais o drwch blewyn ac fe ddaeth ochenaid fawr o ryddhad gan gefnogwyr yr ymwelwyr pan ddaeth y chwib olaf wedi chwe munud o amser ychwanegol.
Wrecsam felly fydd y pedwerydd tîm o Gymru i chwarae yn Wembley mewn blwyddyn ar y 24ain o fis Mawrth, ond er hynny mae'n gwbl sicr mai dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed fydd y flaenoriaeth i'r rheolwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012