Comisiynydd Plant yn poeni
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud ei fod yn poeni nad ydi Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddelio â nifer y plant sy'n cael eu gwahardd yn anghyfreithlon o ysgolion.
Mae hi yn anghyfreithlon i ysgolion i ofyn i rieni i gadw eu plant o'r ysgol os nad ydi'r ysgol wedi nodi'r gwaharddiad yn swyddogol.
Er bod Keith Towler yn croesawu ymchwil gan Lywodraeth Cymru i achosion o'r fath yn 2011, mae e wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn poeni nad oes digon wedi cael ei wneud ers hynny i ddelio â'r broblem.
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi comisiynu mwy o ymchwil gan brifysgol Caeredin, ddylai gyfrannu at wella'r sefyllfa.
Dangosodd ymchwil gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl bod gwaharddiadau anghyfreithlon yn digwydd mewn rhai ysgolion ar hyd a lled Cymru
Cyhoeddwyd adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion.
Ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Mr Towler yn dweud mai "ychydig iawn" sydd wedi gwella ers hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012