Achub swyddi wrth werthu tri safle

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Sion Tecwyn

Mae dyfodol tri safle prosesu cig yng Nghymru wedi eu diogelu wrth i gwmni bwyd brynu'r safleoedd.

Daeth cyhoeddiad gan gwmni Vion eu bod yn symud eu gwaith o'r DU i'r Iseldiroedd a'r Almaen.

Er bod hyn wedi golygu colli 350 o swyddi yn lladd-dy Welsh Country Foods yn y Gaerwen, mae'r cwmni wedi cyhoeddi ddydd Lun eu bod wedi gwerthu safleoedd yn Llangefni ar Ynys Môn, Sandycroft yn Sir y Fflint a Merthyr Tudful fel busnesau hyfyw.

Cwmni bwyd 2 Sisters o Birmingham sydd wedi prynu'r safleoedd ynghyd ag wyth safle arall.

Mewn datganiad dywedodd cwmni 2 Sisters eu bod wedi prynu adrannau dofednod a phrosesu cig coch Vion yn y DU. Mae'r 11 safle yn cyflogi 6,000.

Ymhlith y safleoedd sydd wedi eu prynu mae safleoedd dofednod yn Llangefni a Sandycroft a safle cig coch St Merryn Foods ym Merthyr Tudful.

1,300

Safle Llangefni yw'r lleiaf o'r tri, ac mae 300 o bobl yn gweithio yno, ond mae 1,300 yn gweithio yn safle Sir y Fflint a 1,300 arall ym Merhtyr Tudful.

Er nad oedd bygythiad uniongyrchol i'r swyddi yna, roedd y safleoedd ar werth wrth i Vion adael y DU. Felly pe na bai prynwr wedi dod i'r fei, fe fyddai'r safleoedd yna o dan fygythiad.

Dywedodd 2 Sisters nad oedd safle lladd-dy Gaerwen yn rhan o'r cytundeb a bod cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod ar y 350 o swyddi yno yn parhau.

Mae Gweinidog Busnes Cymru Edwina Hart wedi dweud: "Rwy'n croesawu cyhoeddiad heddiw bod 2 Sisters yn mynd i brynu busnesau dofednod a chig coch Vion sy'n diogelu dyfodol eu gweithredoedd yng Nghymru.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Vion a 2 Sisters i gynorthwyo sicrhau'r cytundeb yma er mwyn cynnal dyfodol y gweithwyr a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru."

'Cyfarfod'

Ar raglen Taro'r Post dywedodd Brian Owen arweinydd Cyngor Môn: "Dwi'n gobeithio cael cyfarfod mor fuan â phosib gyda'r cwmni i weld beth yw eu dyfodol nhw yma a sut maen nhw'n gweld eu dyfodol yn Llangefni.

"Mae hyn yn newyddion da o safbwynt Llangefni a siomedig o safbwynt Gaerwen nad ydi o wedi ei gynnwys yn y pryniant.

"Ac mae trafodaethau o hyd i weld a oes gobaith i Gaerwen."

Dywedodd Huw Lewis AC Llafur Merthyr a Rhymni fod cyhoeddiad Vion y bydden nhw'n gwerthu ffatrïoedd gwledydd Prydain wedi achosi llawer o ofid i weithwyr St Merryn Foods a'u teuluoedd.

"Dwi'n croesawu cyhoeddiad 2 Sisters Food Group heddiw sy'n diogelu swyddi ym Merthyr," meddai.