Dros 250 o achosion o'r frech goch
- Cyhoeddwyd

Mae 38 wedi gorfod mynd i'r ysbyty
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu â'r MMR wedi i 43 achos newydd o'r frech goch ddod i'r amlwg yn ardal Abertawe yn ystod yr wythnos ddiwetha.
Ers Tachwedd mae 252 o achosion wedi bod yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae 'na bryder am effaith barhaol y salwch ar blant.
Mae 38 wedi gorfod mynd i'r ysbyty.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai plant gael dau ddos o'r brechiad MMR er mwyn atal eu plant rhag cael eu heintio.
'Heintus iawn'
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn gweithio'n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth ddelio â'r achosion.
Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr gwarchod iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn ac fe fydd 90% o bobl sydd heb eu brechu yn ei ddal.
"Mae'r mwyafrif yn gwella ond mae posibilrwydd prin o gymhlethdodau, gan gynnwys afiechyd y llygaid, niwed i'r ymennydd a hyd yn oed farwolaeth."
Dylai rhieni plant rhwng un a 18 oed sydd heb gael eu brechu gysylltu'n syth gyda'u meddyg teulu am gyngor a threfnu i gael brechiad cyn gynted â phosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013