Pwysau ar y canghellor i hybu twf

  • Cyhoeddwyd
George Osborne ASFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Canghellor yn cyhoeddi ei gyllideb am 12:30pm ddydd Mercher

Bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi ei gyllideb flynyddol yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddarach.

Y disgwyl yw y bydd yn parhau gyda strategaeth economaidd y llywodraeth ers 2010, sef lleihau'r diffyg cenedlaethol drwy gyfyngu ar wariant.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron yn gynharach yn y mis bod "dim dewis ond cadw at y cynllun economaidd" er i'r Ysgrifennydd Busnes, y Democrat Rhyddfrydol Vince Cable, alw arno i fenthyg mwy er mwyn rhoi hwb i'r economi.

Angen twf

Y ddau air sy'n debyg o godi yn ystod y dydd yw "diffyg" a "dyled".

"Dyled" y DU yw'r cyfanswm y mae'r llywodraeth wedi ei fenthyg dros y blynyddoedd - sydd ar hyn o bryd ymhell dros driliwn (£1,000,000,000,000) o bunnoedd, ac sydd yn dal i dyfu.

Y "diffyg" cenedlaethol yw'r gwahaniaeth rhwng y swm y mae'r llywodraeth yn ei wario'n flynyddol, a'r incwm y mae'r llywodraeth yn derbyn bob blwyddyn. Mae'r diffyg wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2010 yn bennaf oherwydd toriadau'r canghellor mewn gwariant cyhoeddus.

Ond oherwydd y dirwasgiad, mae'r diffyg wedi cynyddu o safbwynt canran o gyfoeth y wlad, sy'n cael ei fesur gan GDP, neu Cynnyrch Mewnwladol Crynswth. Yn 2009 roedd y diffyg yn 1.9% o GDP - bellach mae'n 4%.

Mae'r llywodraeth yn talu llog ar y ddyled fel ar bob benthyciad arall, a nod y canghellor fydd cadw'r taliadau yna o dan reolaeth. Ond er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid i'r economi dyfu - a dyna yw asgwrn y gynnen gyda'r gwrthbleidiau.

Galw am newid

Mae'r blaid Lafur wedi bod yn erfyn ar Mr Osborne i newid ei strategaeth economaidd gan ddadlau bod y toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn difrodi hyder ac yn arafu twf.

Dywedodd llefarydd Llafur ar yr economi, Ed Balls, bod Mr Cameron "yn honni bod yr economi yn gwella a bod ei gynllun yn gweithio, ond mae pawb arall yn gwybod bod yr economi yn fflat, mae safonau byw yn gwaethygu ac mae'r diffyg yn codi er mwyn talu costau economi sy'n methu".

Cyllid personol

Felly beth allwn ni ddisgwyl yng nghyllideb George Osborne brynhawn Mawrth?

Yn dilyn y drefn ddiweddar, mae nifer o newidiadau cyllid personol eisoes wedi eu cyhoeddi yn natganiad y canghellor ym mis Rhagfyr.

O fis Ebrill 2013, bydd lwfans personol - sef y swm y caiff unigolyn o dan 65 oed ennill cyn talu treth - yn cynyddu o £8,105 y flwyddyn i £9,440, sy'n golygu y bydd pobl ar gyflogau isel yn talu llai o dreth.

Ond un newid arall yw y bydd y gyfradd treth incwm i bobl sy'n ennill dros £150,000 y flwyddyn yn disgyn o 50% i 45%, sy'n golygu y byddan nhw hefyd ar eu hennill.

Mae ystod eang o newidiadau i fudd-daliadau hefyd yn dod i rym ym mis Ebrill, gan gynnwys y dreth "ystafell wely" ddadleuol.

Fe fydd nifer o fudd-daliadau eraill yn gweld cyfyngiadau - bydd nifer yn cynyddu o 1% yn unig, a gan fod hynny islaw lefel chwyddiant mae hynny'n ostyngiad real yn y swm.

Tai fforddiadwy

Fel arfer mae nifer o leisiau yn galw ar y canghellor am newidiadau i'r gyllideb.

Mae cymdeithas cyflogwyr y CBI wedi galw arno i ddargyfeirio gwariant i ardaloedd sydd â'r potensial i dyfu'n gyflym, ac wedi argymell y dylid gwario £1.25 biliwn ar godi 50,000 o dai fforddiadwy er mwyn rhoi hwb i'r sector adeiladu.

Mae ambell un o fewn y llywodraeth am weld Mr Osborne yn mynd ymhellach gyda'i gynllun presennol.

Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, yr hoffai weld gwariant cyhoeddus yn cael ei rewi'n gyfan gwbl am bum mlynedd, ac na ddylai unrhyw adran o'r llywodraeth ddianc rhag gwneud arbedion pellach.

Yfed a gyrru?

O ran agweddau arall o'r gyllideb, fe allai'r araith fod yn newyddion drwg i'r rhai sy'n yfed alcohol, ond yn well i yrwyr.

Er i'r llywodraeth yn ddiweddar wneud tro pedol ynglyn ag isafswm pris alcohol, mae'n bosib y bydd y canghellor yn ceisio bodloni ymgyrchwyr iechyd drwy gyhoeddi y bydd y dreth ar alcohol yn codi mwy na 2% uwchben chwyddiant, fel bydd yn digwydd ym mis Ebrill.

Gallai Mr Osborne ddefnyddio'r incwm ychwanegol ddaw yn sgil hyn i ohirio cynnydd yn y dreth ar danwydd oedd i fod i ddigwydd yn yr hydref, gan blesio gyrwyr sy'n wynebu biliau uwch am betrol a diesel.

Bydd y cyfan yn cael ei ddatgelu wrth i Mr Osborne godi i draddodi ei araith am 12:30pm ddydd Mercher. Bydd y manylion i'w cael ar safle Newyddion Ar-lein BBC Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol