Llywodraeth y DU i wneud tro pedol ar bris alcohol?

  • Cyhoeddwyd
Potel gwin mewn archfarchnadFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Petai'r cynlluniau'n cael eu cyflwyno, byddai potel win yn costio o leia' £4.22

Mae 'na bwysau ar Lywodraeth San Steffan i gadarnhau a fyddan nhw'n gwneud tro pedol ar gynlluniau i osod isafswm pris ar alcohol ai peidio.

Er mwyn ceisio mynd i'r afael â goryfed, mae'r llywodraeth yn ystyried cyflwyno isafswm o 45c yr uned a gwahardd cynigion arbennig ar alcohol, fel dau-am-bris-un.

Er gwaetha' cefnogaeth y Prif Weinidog David Cameron i'r cynlluniau, mae 'na awgrym fod y Ceidwadwyr yn rhanedig ar y mater.

Yn ôl ymgyrchwyr iechyd, fe allai'r polisi achub bywydau.

Ond mae eraill, gan gynnwys rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol, yn dweud y byddai'n annheg ar bobl sy'n yfed yn gymhedrol.

Gwrthwynebiad

Mae'r blaid Lafur wedi cyhuddo'r llywodraeth o "arweinyddiaeth wan", wedi iddi ddod i'r amlwg y gallai'r cynlluniau gael eu diddymu.

Yn ôl y Swyddfa Gartre', maent yn ystyried yr ymateb i ymgynghoriad 10-wythnos ar y mater.

Mae'r BBC wedi cael ar ddeall fod yna bwysau cynyddol ar y llywodraeth i roi'r gorau i'r cynlluniau, yn sgil gwrthwynebiad gan weinidogion cabinet, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartre' Theresa May, yr Ysgrifennydd Addysg Michael Gove, ac arweinydd Tŷ'r Cyffredin Andrew Lansley.

Mae disgwyl i'r Canghellor George Osborne amlinellu cynlluniau'r llywodraeth ar brisiau alcohol yn y Gyllideb yr wythnos nesa'.

Petai isafswm o 45c yn cael ei gyflwyno, byddai can o lager cryf yn costio o leia' £1.56, a fyddai dim modd prynu potel o win am lai na £4.22.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i gael eu hymateb nhw i'r sefyllfa.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol