Deiseb yn erbyn 'gwahardd dros dro' dau yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan y celfyddydau ar gampws Prifysgol Aberystwyth

Mae mwy na 1,000 wedi arwyddo deiseb sy'n honni bod dau reolwr canolfan celfyddydol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu gwahardd o'u gwaith dros dro.

Galw y mae'r ddeiseb am sicrhau bod Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Alan Hewson, a'r rheolwr gweithredu, Auriel Martin, yn ôl yn y gwaith.

Mae ymgyrchwyr wedi honni y bydd newidiadau arfaethedig i'r ganolfan yn cael eu tanseilio oherwydd "ail-strwythuro llawdrwm".

Dyw'r brifysgol ddim wedi cadarnhau na gwadu bod aelodau staff wedi eu gwahardd o'u gwaith.

'Gwerthu asedau'

Cafodd y ddeiseb ar-lein ei sefydlu ar wefan Change.org gan Stephen West.

Dywedodd ar y wefan: "Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth dan fygythiad ac yn cael ei ansefydlogi oherwydd ail-strwythuro llawdrwm y brifysgol ac oherwydd bod dau o'i uwchreolwyr wedi eu gwahardd o'u gwaith dros dro.

"Mae'n bwysig nodi na fydd gan y ganolfan ddiffyg ariannol eleni. Mae'r newidiadau arfaethedig yn ymwneud â gwerthu asedau adnodd celfyddydol gafodd ei hybu gan arian cyhoeddus."

Dywedodd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke o Landysul, Ceredigion, ei bod wedi cefnogi'r ymgyrch i ailsefydlu rheolwyr y ganolfan.

Ychwanegodd fod y ganolfan yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol y sir.

"Pan ofynnodd Alan Hewson i fi a Bardd y Frenhines, Carol Ann Duffy, i ddarllen ein gwaith yn yr ŵyl bensaernïaeth roedden ni'n fodlon gwneud hynny.

"Ond fydden ni ddim wedi gwneud hyn oni bai am ei bersonoliaeth gynnes a'i effeithiolrwydd."

'Yn siomedig'

Mewn datganiad dywedodd y brifysgol eu bod yn "siomedig ac yn drist" fod negeseuon wedi eu lledu gyda'r nod bosib o gynyddu pryder y cyhoedd am "ddyfodol ein canolfan gelfyddydol wych".

Ychwanegodd fod llawer o'r ymatebion yr oed wedi eu derbyn yn pwysleisio "cyfuniad hapus," hynny yw bod y brifysgol a'r gymuned yn defnyddio'r ganolfan.

"Mae'r brifysgol yn dweud yn bendant nad oes unrhyw gynllun gan y brifysgol yn awr nac yn y gorffennol i leihau neu gyfyngu ar ddefnydd cyhoeddus na chymunedol.

"Ac mae cynllun strategol y ganolfan, y mae bwrdd ymgynghorol y ganolfan a Chyngor y Brifysgol wedi ei gymeradwyo, yn datgan yn glir mai bwriad y brifysgol a chanolfan y celfyddydau yw parhau i ddarparu cyfleusterau, perfformiadau, cyrsiau a digwyddiadau gwych ar gyfer y gymuned.

'O ddifrif'

"Mae dyletswydd gofal ar y brifysgol parthed eu staff ac mae'n cymryd y ddyletswydd hon o ddifrif.

"Nid yw Prifysgol Cymru wedi cadarnhau na gwadu honiadau bod staff yn cael eu gwahardd o'u gwaith dros dro mewn unrhyw ddatganiad cyhoeddus nac unrhyw ddatganiad i'r wasg ac ni fyddwn ni'n gwneud hynny.

Yn Chwefror cafodd digwyddiad cerddoriaeth ddawns oedd yn cael ei gynnal yn y ganolfan ei stopio am gyfnod gan yr heddlu wedi iddyn nhw gael adroddiadau fod 'na fabi yn y gynulleidfa.

Ar y pryd dywedodd y brifysgol fod y gerddoriaeth wedi cael ei stopio yng nghyngerdd y Black House mewn ymgais i ddod o hyd i'r fam a'r babi ond deellir eu bod eisoes wedi gadael y gyngerdd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol