Gofal babanod: Llywodraeth yn ymateb i gynlluniau

  • Cyhoeddwyd
Babi o dan ofal arbennigFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynlluniau i symud gofal dwys babanod yn cael eu hadolygu

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn paratoi i edrych ar fodel arall i ddarparu gofal arbenigol i fabanod yng Ngogledd Cymru.

Yn y cyfamser, mae'n credu ei bod hi'n briodol i ddefnyddio ysbyty yn Lloegr er mwyn sicrhau safon y gwasanaeth.

Wrth ymateb i'r datganiad, mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r Llywodraeth am beidio sicrhau y bydd y gwasanaeth yn aros yng Nghymru.

O dan gynllun Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bydd gofal dwys i fabanod newydd anedig yn symud o ysbytai Maelor Wrecsam a Glan Clwyd i ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Mae'r cynllun yn ddadleuol ac wedi cael ei feirniadu gan Aelodau Cynulliad o'r pedair prif blaid ynghyd â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, cymdeithas feddygol y BMA a'r Coleg Bydwragedd Brenhinol.

Cyngor annibynnol

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Carwyn Jones y bydd yn galw am fwy o gyngor annibynnol ar ddyfodol y gwasanaeth yn y tymor hir - a'r posibilrwydd o'i gadw yn y gogledd.

Mae arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi beirniadu'r llywodraeth am fethu a gweithredu'n syth i rwystro'r gwasanaethau rhag cael eu symud i Loegr. Mae Mr Davies o'r farn bod y datganiad yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru yn ddigonol.

Yn ôl Plaid Cymru, mae'r cyhoeddiad yn gyfaddeddiad gan y Llywodraeth bod symud y gwasanaethau arbenigol o Olgedd Cymru yn benderfyniad anghywir.

Wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog dywedodd yr Aelod Cynulliad Llyr Gruffydd: "Rwy'n gofidio'n fawr ei fod yn ymddangos yn hapus i dderbyn y bydd y gwasanaeth yn cael ei golli'n fuan, gan ddweud y bydd yn ceisio ei ail-gyflwyno ar bwynt amhenodol yn y dyfodol."

Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngogledd Cymru, Aled Roberts, yn dadlau y bydd sgiliau a phrofiad yn cael ei golli wrth symud y gwasanaeth o Ogledd Cymru, a bydd angen buddsoddiad mawr i adfer y sefyllfa honno yn y dyfodol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi croesawi'r datganiad gan ddweud y byddant y gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ymgynghorwyr annibynnol i edrych ar y posibiliadau hir dymor. Yn ôl y Cyfarwyddwr Gweithredol, Dr Martin Duerden, mae'r Bwrdd yn parhau yn "ymrwymiedig i sicrhau bod y gofal mae babanod newydd yn ei dderbyn yn cyrraedd y safon sy'n ofynnol."

Yn gynharach eleni, fe benderfynodd y Cyngor Iechyd Cymuned lleol i beidio a herio cynllun y Bwrdd i symud gwasanaethau. Ond ar ddechrau mis Mawrth fe gyhoeddodd Carwyn Jones ei fod am ystyried y cynlluniau ymhellach.

Yn ei ddatganiad heddiw, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae'n gwbl briodol bod BCUHB yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn i ddarparu gwasanaethau sy'n cydymffurfio â'r safonau hyn ar gyfer babanod yn y Gogledd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio Arrowe Park lle bo angen.

"Fodd bynnag, hoffwn gael cyngor annibynnol pellach ynghylch a oes model arall ar gael er mwyn i'r gwasanaeth pwysig a hanfodol hwn fod yn hunangynhaliol yn y Gogledd yn yr hirdymor, gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael. Rwyf felly wedi penderfynu rhoi trefniadau ar waith i gael cyngor ar y posibiliadau yn y dyfodol ynghylch datblygu gwasanaethau newyddenedigol arbenigol yn y Gogledd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol