Sir Benfro: Arweinydd yn cwrdd â gweinidogion
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd cyngor yn cwrdd â gweinidogion wedi i'r awdurdod gael eu cyhuddo o fethu yn eu dyletswydd o ofalu am blant.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi bygwth gorfodi Cyngor Sir Benfro i gydymffurfio os bydd angen.
Cafodd panel o arbenigwyr eu gyrru i'r awdurdod y llynedd yn dilyn adroddiad i honiadau o gam-drin plant.
Ond mae gweinidogion wedi dweud bod gwelliannau yn "boenus o araf".
Maen nhw'n ystyried rhoi'r grym i fwrdd o weinidogion gyflwyno gorchmynion fel bod yr awdurdod yn cwrdd â'r gofynion gwarchod.
Fore Mercher dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd ar unwaith "gan fod diogelwch plant yn y fantol".
Cloi mewn ystafelloedd
Mewn llythyr at arweinydd y cyngor ddydd Mawrth dywedodd y llywodraeth fod "pryderon dybryd" am y cyngor o hyd.
Mae'r llythyr yn dweud nad oes ymchwiliad disgyblu wedi bod i gwynion am ystafell arbennig mewn uned i blant ag anghenion addysgol ac ymddygiad arbennig, a hynny er gwaethaf ymchwiliad cychwynnol ac argymhellion yr heddlu.
Ers hynny, dywedodd gweinidogion eu bod wedi clywed am o leiaf bump o ystafelloedd mewn ysgolion yn y sir lle mae plant yn cael eu cloi i mewn, "ac fe allai fod llawer mwy".
Mae honiadau eraill am fachgen mewn ysgol fabanod arall a gafodd glymu ei ddwylo y tu ôl i'w gefn.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Dirprwy Weinidog dros Blant a Phobl Ifanc, Gwenda Thomas: "Rydym wedi disgwyl yn ddigon hir, ac nid ydym yn barod i roi rhybudd arall."
Amseru
Dywedodd arweinydd annibynnol y cyngor, Jamie Adams, bod amseru'r datganiad yn "ddryslyd" iddo gan fod ganddo apwyntiad ers tro i gyfarfod gyda'r gweinidogion ddydd Mercher.
Dywedodd hefyd bod cynnwys y llythyr wedi ei synnu gan fod "trafodaethau positif" wedi bod gyda'r bwrdd o weinidogion ers etholiadau'r cyngor ym mis Mai.
"Fel aelodau etholedig," meddai, "fe fyddwn yn cefnogi staff fel y gallwn gymryd pob cam posib i gwrdd â disgwyliadau gweinidogion ac, yn fwy pwysig, plant y sir yma sef ein blaenoriaeth bennaf."
Mae gan y cyngor tan 5:00pm ar Fehefin 22 i ymateb cyn y byd gweinidogion yn penderfynnu pa gamau i'w cymryd.
Dywedodd Sue Perkins, yr aelod dros warchod a gwasanaethau plant ar gabinet yr awdurdod: "Yn fy amser byr fel aelod o'r cabinet, rwy'n teimlo i ni gymryd camau ymlaen.
"Rwy'n siŵr yn dilyn cyfarfod ddydd Mercher y byddwn yn tawelu meddyliau gweinidogion am y gwelliant sydd wedi digwydd, ac yn cytuno mai gwarchod plant sydd ar frig agenda Cyngor Sir Benfro."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011