Frech goch: 1,200 o gleifion
- Cyhoeddwyd
Mae tua 1,200 o gleifion wedi cael eu brechu mewn clinigau ychwanegol yn y de ddydd Sadwrn mewn ymateb i'r cynnydd pellach yn nifer y bobl sydd â'r frech goch yn yr ardal.
Roedd y clinigau yn Ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe, Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, ac oherwydd y galw oedd yn 50% yn fwy na'r disgwyl fe fydd clinigau ychwanegol ddydd Sadwrn nesaf yn ogystal.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfaddef i BBC Cymru nad yw'r epidemig gwaetha' ers ugain mlynedd dan reolaeth ac y bydd hi'n wythnosau cyn i'r sefyllfa wella'.
Maen nhw'n parhau i annog rhieni a gofalwyr i sicrhau bod plant yn derbyn y brechiad MMR.
Yn ôl yr ystadegau diweddara' mae 588 nawr wedi eu heintio ers mis Tachwedd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Cyn Dydd Sadwrn, roedd 586 o bobl wedi cael y brechiad MMR yn yr ardal dros yr wythnos diwethaf yn ychwanegol at y rhai sydd i fod i'w dderbyn yn fabi.
Doedd 'na ddim angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau ddydd Sadwrn a gafodd eu cynnal rhwng 10am a 4pm.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod 'na risg i'r plant sydd heb gael eu brechu ddod i gysylltiad â phobl sydd eisoes wedi eu heintio yn cynyddu'n ddyddiol ac mae pobl sydd heb eu brechu yn debygol iawn o gael yr haint.
Dau frechiad
Dywed y corff mai mater o amser yw hi, felly, cyn bod plentyn yn cael cymhlethdodau difrifol a pharhaol fel problemau gyda'r llygaid, byddardod, niwed i'r ymennydd, neu yn marw.
Mae achosion ar draws Cymru ond mae'r rhan fwyf o achosion yn ardal Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.
Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr diogelu iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'n braf gweld mwy o rieni yn ymddiried yn y brechiad a byddaf yn annog mwy i'w dilyn.
"Mae'r brechiad MMR yn cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd, Adran Iechyd Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y dull mwyaf effeithiol a diogel o ddiogelu plant rhag y frech goch.
"Mae'r nifer brawychus o achosion o'r frech goch, a'i ymlediad yng Nghymru yn dangos pa mor bwysig yw hi fod rhieni yn sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2013