Y frech goch: Bron 700 o achosion
- Cyhoeddwyd
Gan fod 73 achos newydd o'r frech goch wedi eu hadrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru o fewn deuddydd yn ardal Abertawe y cyfanswm erbyn hyn yw 693.
Mae'r corff yn parhau i annog rhieni i frechu eu plant ar draws Cymru ac mae clinigau ychwanegol wedi eu trefnu yn Abertawe a'r Cylch dros y penwythnos wedi ymateb da y penwythnos diwethaf.
Er i 2,600 o frechiadau MMR gael eu rhoi yn ardal Abertawe dros yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys 1,726 yn y clinigau arbennig, mae'r corff wedi rhybuddio nad yw hyn yn ddigon i ddod â'r achosion o dan reolaeth.
6,000
Mae o leiaf 6,000 o blant yr ardal yn dal heb ei brechu.
Bydd clinigau ychwanegol ar agor rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn, Ebrill 13, mewn pedwar lleoliad yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Ysbyty Treforys, Ysbyty Singleton, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn dal yn bryderus iawn nad oes arwyddion bod yr achosion hyn yn mynd i ffwrdd.
"Hoffwn atgoffa rhieni nad dim ond plant bach sydd angen eu brechu.
"Mae angen ar frys i ni weld plant hŷn sydd wedi methu brechiadau yn y gorffennol ac rydym yn pryderu'n arbennig am blant yn y grŵp oedran 10-14."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013