Y frech goch: Ymlediad 'brawychus'
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion iechyd yn rhybuddio bod yr achosion o'r frech goch yn Abertawe yn dal i ymledu "ar raddfa frawychus".
Mae nifer yr achosion bellach wedi cyrraedd 620 yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), a does dim arwydd bod yr haint yn arafu.
Er bod dros 1,700 o bobl wedi mynd i glinigau arbennig dros y penwythnos i gael y brechiad MMR, mae arbenigwyr y dweud nad ydyn nhw'n gweld digon o blant rhwng 10 ac 17 oed.
Mae ICC yn amcangyfrif bod 6,000 o blant yn dal heb gael brechiad, ac nad yw'r clefyd wedi cyrraedd ei frig eto.
Mwy o glinigau
Dywedodd Dr Marion Lyons o ICC wrth y BBC: "Rydym yn dal i weld llawer o achosion newydd yr wythnos yma. Gan fod llawer heb eu brechu, rydym yn gwybod y byddan nhw'n heintio mwy o bobl ac fe fyddwn ni'n gweld y rhain dros y pythefnos nesaf.
"Mae'r cynnydd yn y nifer yn dal ar raddfa frawychus."
Bydd mwy o glinigau yn cael eu cynnal yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn gan dargedu plant a phobl ifanc yn eu harddegau sydd heb gael y brechiad MMR pan oedden nhw'n fabanod.
Dywed Dr Lyons mai'r plant hŷn sy'n wynebu'r perygl mwyaf o'r clefyd gan fod rhieni wedi mynd â'u babanod i gael eu brechu dros y dyddiau diwethaf.
Ychwanegodd bod ICC wedi ysgrifennu at rieni am frechu, gan rybuddio bod rhieni plant hŷn iach sydd ddim yn ymweld â'u meddyg teulu yn gyson yn gallu anghofio'r risg o gael y frech goch.
Gorfodol
Yn y cyfamser mae arbenigwr ar y frech goch o America wedi dweud y byddai Prydain yn elwa o wneud brechu yn orfodol.
Gall pobl yn yr Unol Daleithiau hawlio eithriad o'r rheol ar dir crefydd, ond dywedodd Dr Paul Offit fod y polisi yn golygu bod llawer mwy yn cael y brechiad.
"Mae llawer o blant yn diodde'r clefyd yma heb angen, ac yn gorfod mynd i'r ysbyty ac weithiau'n marw, ac mae hynny'n afresymol," meddai.
"Yn y wlad yma nid ydym yn credu ei bod yn hawl i rywun ddal a throsglwyddo clefyd allai fod yn angheuol, felly o leiaf rydym yn gosod un rhwystr i hynny, sef brechu gorfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013