App yn helpu adfer papur newydd ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Papurau newyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Bydd newyddiadurwyr y papur newydd yng nghanolfan siopa Port Talbot ddydd Sadwrn

Bydd 'ystafell newyddion' anghyffredin yn cael ei sefydlu mewn canolfan siopa gan obeithio y bydd trigolion yn cynnig straeon ar gyfer papur newydd lleol.

Mae pobl Port Talbot yn cael cais am gymorth i ail-sefydlu papur newydd yn y dref dair blynedd wedi i'r papur wythnosol ddod i ben.

Bydd y papur newydd yn cael ei gyhoeddi yn rhad ac am ddim bob mis gan dîm newyddion ar-lein y Port Talbot Magnet.

Bydd newyddiadurwyr y papur newydd yng nghanolfan siopa Port Talbot ddydd Sadwrn.

App ffôn symudol

Dywedodd Rachel Howells, cyfarwyddwr y Port Talbot Magnet fod y dref yn haeddu papur newydd lleol.

"Pam ddylai tref gyda chymaint i'w gynnig fod heb bapur newydd lleol?" meddai.

"Roeddem yn teimlo mai nawr yw'r amser i ail-sefydlu papur newydd ym Mhort Talbot ac rydym am i bobl leol fod yn rhan o'r fenter."

Cafodd y Port Talbot Magnet ei sefydlu ar ôl i'r Port Talbot Guardian ddod i ben ac mae'r tîm newyddiadurol wedi cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer y cynllun hwn.

Mae app ffôn symudol wedi cael ei ddatblygu fydd yn galluogi trigolion i rannu eu straeon gyda newyddiadurwyr.

"Rwy'n gobeithio y bydd pobl leol yn achub y cyfle i berchnogi'r papur newydd hwn," meddai Ms Howells.

"Rwy'n gwybod y bydd o fudd mawr i'r dref ac rwyf am sicrhau fod gan bawb y cyfle i leisio eu barn."

Bydd y rhifyn cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y mis.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol