Pleidiau'n cytuno ar reoli'r wasg
- Cyhoeddwyd
Mae'r tair prif blaid wleidyddol wedi cytuno sut i reoleiddio'r wasg yng Nghymru a Lloegr wedi'r sgandal hacio ffonau.
Bydd Siarter Frenhinol yn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol.
Tra bod arweinydd Llafur Ed Miliband a'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud y byddai deddf yn ei chefnogi, mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi gwadu hynny.
Roedd y cytundeb wedi trafodaethau dros nos rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur a Gweinidog Cabinet.
Mae'r mudiad ymgyrchu Hacked Off wedi croesawu'r fargen.
'Osgoi'
"Yr hyn yr oedden ni am ei osgoi a'r hyn yr ydym wedi ei osgoi yw deddf," meddai Mr Cameron.
"Felly ni fydd unrhyw ddeddfwriaeth ond modd sicrhau na all gwleidyddion ymyrryd yn y trefniant.
Dywedodd Mr Miliband ei fod o dan yr argraff y byddai deddfwriaeth yn cefnogi'r siarter.
"Mae hyn yn bwysig am ei bod yn rhwystro gweinidogion na'r wasg rhag ymyrryd ..."
Dyw manylion y siarter ddim wedi eu cyhoeddi eto ond mae drafftiau'n awgrymu y gall y rheoleiddiwr orfodi papur newydd i gyhoeddi cywiriadau ac ymddiheuriadau.
Yn obeithiol
Ddydd Sul dywedodd y Canghellor George Osborne ei fod yn obeithiol y gallai'r pleidiau ddod i gytundeb cyn y bleidlais.
Ddydd Iau cyhoeddodd Mr Cameron fod trafodaethau rhwng arweinwyr y pleidiau ar argymhellion Adroddiad Leveson wedi methu.
Cafodd Ysgrifennydd Cymru David Jones ei alw nôl o daith i'r Dwyrain Pell er mwyn cymryd rhan yn y bleidlais allweddol.
Fe gyrhaeddodd Mr Jones Japan ddydd Mercher i gychwyn y daith fasnach i'r Dwyrain Pell, oedd yn cynnwys ymweld â Fietnam, Y Philippins a Hong Kong tan Fawrth 24.
Dydd Llun daeth cadarnhad y bydd yn dychwelyd i barhau â'r daith ar y newyddion na fyddai'r bleidlais yn mynd yn ei blaen.
"Mae cael gwasg rydd yn gwbl allweddol i'n cymdeithas a dwi'n gwbl gefnogol i'r prif weinidog ar y mesur mae'n ei gymryd i sicrhau y bydd system o reoli'r wasg yn gweithio," meddai.
Hunan-reoli
Cafodd Ymchwiliad Leveson ei sefydlu ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod newyddiadurwyr yn hacio galwadau ffôn preifat.
Daeth Yr Arglwydd Leveson i'r casgliad fod papurau newydd wedi cael effaith dinistriol ar "fywydau pobl ddiniwed".
Roedd o'r farn nad oedd hunan-reoli yn gweithio ac roedd am ddeddfu er mwyn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012