'Cyfrifoldeb' ar bleidiau Môn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Heledd Sion

Mae'r trafod wedi dechrau er mwyn ceisio ffurfio awdurdod sefydlog yn dilyn etholiadau Cyngor Sir Ynys Môn ddydd Gwener.

Does yr un blaid na grŵp wedi llwyddo i ennill rheolaeth lwyr, gyda'r ymgeiswyr annibynnol yn cipio'r nifer fwyaf o seddi.

Bydd 14 cynghorydd annibynnol yn yr awdurdod newydd, gyda 12 aelod o Blaid Cymru, 3 o Lafur ac un Democrat Rhyddfrydol.

Mae Ieuan Wyn Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru'r ynys, nawr yn dweud bod cyfrifoldeb ar y pleidiau wedi blynyddoedd o reolaeth gan yr annibynwyr.

Cyfarfod yn barod

Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw'n trafod gyda Llafur, ac roedd cyfarfod o'r grŵp Plaid newydd yn syth wedi'r canlyniad olaf ddod i mewn nos Wener.

Yn y cyfarfod hwnnw fe gafodd Bob Parry ei ethol fel arweinydd y grŵp ar y cyngor.

Rhwng y ddwy blaid, maen nhw wedi ennill hanner y seddi ar y cyngor.

Cafodd yr etholiadau eu gohirio am flwyddyn tra bod comisiynwyr a gafodd eu penodi gan Lywodraeth Cymru yn rhedeg y cyngor. Fe wnaeth y llywodraeth ymyrryd wedi blynyddoedd o gecru gwleidyddol mewnol ar yr awdurdod, a sawl adroddiad damniol.

Methodd y Ceidwadwyr na UKIP i gipio'r un sedd, ond roedd cyfran pleidlais UKIP (7%) yn uwch na'r Ceidwadwyr (6%).

'Grym wedi chwalu'

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, sydd hefyd yn gyn arweinydd Plaid Cymru, y byddai'n anodd i'w blaid ffurfio cytundeb gydag annibynwyr, gan ychwanegu:

"Mae cyfrifoldeb ar y pleidiau gwleidyddol yma. Er bod presenoldeb uchel gan yr annibynwyr o hyd, rwy'n credu bod eu grym wedi chwalu.

"Rydym wedi gweld newid mawr yn yr etholiad hwn.

"Bydd yr awdurdod newydd yn benderfynnol o sicrhau mai'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu yw'r rhai mae pobl am eu gweld ar draws yr ynys."

Oherwydd ad-drefnu a newid ffiniau, mae nifer y cynghorwyr ar Ynys Môn wedi gostwng o 40 i 30, gydag 11 ward newydd aml-aelod yn cael eu sefydlu.

Collodd nifer o gyn-gynghorwyr amlwg eu seddi. Yn eu plith roedd cyn arweinydd yr awdurdod, Bryan Owen, a chyn arweinydd y grŵp Llafur, John Chorlton.

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi disgrifio'r canlyniad fel un "gwych" i'w phlaid.

Dywedodd: "Yr hyn sy'n bwysig nawr i Ynys Môn yw gosod sgorio pwyntiau gwleidyddol i'r naill ochr er mwyn cael llywodraethu da, ac yna dod â phennod anodd yn hanes y cyngor i ben."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol