Etholiad Môn: Neb yn cael mwyafrif
- Cyhoeddwyd
Does neb wedi cael mwyafrif yn etholiad lleol Ynys Môn wrth i gyn-arweinydd y cyngor sir golli ei sedd.
Enillodd ymgeiswyr Annibynnol 14 o seddau, Plaid Cymru 12, Llafur tair a'r Democratiaid Rhyddfrydol un.
Roedd angen i blaid ennill 15 i gael mwyafrif.
Cafodd y canlyniadau terfynol eu cyhoeddi brynhawn Gwener.
Dywedodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Tomos Livingstone: "Bydd angen tipyn o amser i'r pleidiau drafod a cheisio taro bargen.
"Mae'n debyg y bydd y trafodaethau'n para tan yr wythnos nesa' o leia'."
Collodd cyn-arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Bryan Owen, ei sedd yn etholiad lleol yr ynys.
Curo
Roedd yn ymgeisydd Annibynnol ond fe gafodd ei guro gan dri ymgeisydd Plaid Cymru yn ward Canolbarth Môn.
Yn ward Caergybi cafodd tri chynghorydd eu hail ethol, dau o'r Blaid Lafur ac un cynghorydd Annibynnol.
Fe gafodd ymgeisydd UKIP 637 o bleidleisiau.
Roedd hyn yn fwy o bleidleisiau na'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru gyda'i gilydd.
50.5%
Collodd John Chorlton, arweinydd y grŵp Llafur, ei sedd.
Daeth cadarnhad bod 50.5% o'r etholwyr wedi bwrw eu pleidlais.
Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd yn etholiadau'r cyngor sir yng Nghymru yn 2012 ond yn is na'r tro diwethaf i etholwyr Ynys Môn ddewis eu cynghorwyr yn 2008.
Roedd etholwyr yr ynys yn pleidleisio flwyddyn yn hwyrach na gweddill Cymru wedi i gomisiynwyr gael eu galw i ofalu am waith y cyngor gan Lywodraeth Cymru.
Newid ffiniau
Mae'r etholiad yn wahanol i rai'r gorffennol oherwydd newid ffiniau a threfniadau'r etholiad.
Mae 30 o gynghorwyr yn cael eu hethol yn 2013 yn hytrach na'r 40 blaenorol.
Erbyn hyn 11 o wardiau aml-aelod sydd yno bellach.
Cafodd y comisiynwyr eu galw i mewn ym mis Mawrth 2011 yn dilyn sawl adroddiad damniol am yr awdurdod.
Ers hynny mae gwelliannau wedi digwydd ac ym mis Chwefror eleni cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol ar y pryd, Carl Sargeant, ei fod yn gobeithio dirwyn gwaith y comisiynwyr i ben erbyn diwedd mis Mai eleni.
Roedd y pleidleisiau'n cael eu cyfri yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn Llangefni ers 9:30am.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012