BBC ac Eos: Penderfyniad dros dro

  • Cyhoeddwyd
Logo asiantaeth EosFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r BBC ac Eos yn trafod telerau ar gyfer trwydded dros dro i ddarlledu caneuon aelodau'r asiantaeth gerbron tribiwnlys halfraint ddiwedd Ebrill.

Mae tribiwnlys hawlfraint wedi cyhoeddi penderfyniad dros dro ynghylch faint y dylai'r BBC dalu am ddarlledu cerddoriaeth aelodau asiantaeth Eos.

Mae'r datganiad gyhoeddwyd ar wefan y tribiwnlys yn dweud bod yn rhaid i'r BBC barhau i dalu £10,000 y mis tan i'r mater gael ei setlo'n derfynol.

Dywedodd y tribiwnlys fod ffeithiau'r achos yn gymhleth ac y byddai yna benderfyniad terfynol erbyn diwedd 2013.

'Cam cyntaf'

Mae llefarydd ar ran y BBC wedi dweud: "Penderfyniad dros dro y tribiwnlys hawlfraint heddiw yw'r cam cyntaf mewn proses gyfreithiol annibynnol fydd yn dod i ben gyda phenderfyniad terfynol yn ddiweddarach eleni.

"Yn y cyfamser rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddod i gytundeb sy'n deg i gerddorion Cymraeg a'r rhai sy'n talu ffi'r drwydded."

Dywedodd Eos eu bod nhw'n "hynod o falch y bydd y gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon ym mis Medi".

Yn ôl Dafydd Roberts o'r mudiad: "bydd offer cyfeithu yno a chyfle i'n haelodau roi tystiolaeth yn Gymraeg ..."

Dywedodd ei fod yn deall bod y BBC am i'r gwrandawiad fod yn Llundain.

Ni fyddai gwrandawiad o'r fath yn rhad, meddai.

"Un person sy'n gyflogedig gennym ac os yw'r arian yn rhedeg allan, bydd rhaid i ni gyflwyno'r achos ein hunain."

'Anarferol iawn'

Wrth ymateb i hynny daeth datganiad pellach gan y BBC sy'n dweud:

"Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i gytundeb parhaol i'r anghydfod trwy'r broses Tribiwnlys Hawlfraint ac rydym wedi neilltuo £50k i gefnogi costau cyfreithiol Eos fel bod dadleuon yr aelodau am werth masnachol eu cerddoriaeth yn cael gwrandawiad teg.

"Mae'n anarferol iawn i sefydliad gyfrannu tuag at gostau cyfreithiol un arall mewn achos Tribiwnlys Hawlfraint ond rydym wedi cymryd y cam hwn er mwyn galluogi Eos i ddadlau eu hachos.

"Mater i Eos yw sut a pha mor gyflym mae'r arian yn cael ei wario ond rydym yn credu bod digon o arian wedi cael ei ddarparu i gefnogi eu costau cyfreithiol rhesymol."

Degau o filoedd

Eos sy'n berchen ar yr hawliau i ddarlledu degau o filoedd o ganeuon Cymraeg poblogaidd.

Ddechrau'r flwyddyn, o ganlyniad i anghydfod am werth masnachol yr hawliau darlledu, wnaeth y BBC ddim darlledu cerddoriaeth aelodau Eos am wythnosau.

Cafwyd cytundeb dros dro ym mis Chwefror, ac fe drafodwyd y cytundeb hwnnw yn ystod gwrandawiad gerbron y tribiwnlys hawlfraint ddiwedd Ebrill.

Bryd hynny dywedodd y BBC ei bod yn talu £120,000 y flwyddyn i Eos ar gyfer trwydded dros dro i ddarlledu caneuon aelodau'r asiantaeth - neu £10,000 y mis.

Dywedodd Eos y dylai gael £325,000 y flwyddyn ar gyfer trwydded dros dro.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol