Iaith: cwmni yswiriant Admiral yn ymddiheuro

  • Cyhoeddwyd
Admial
Disgrifiad o’r llun,

Admiral yw un o gyflogwyr mwya' Cymru

Mae cwmni yswiriant Admiral, un o gyflogwyr mwya' Cymru, wedi ymddiheuro i gwsmer ar ôl dweud bod rhaid cynnal sgwrs ffôn yn Saesneg yn unig.

Gofynnodd Gwion Schiavone am siarad Cymraeg gydag aelod o staff ond dywedwyd wrtho bod rhaid cael recordiad Saesneg er mwyn bodloni'r rheoleiddwyr, Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mae'r awdurdod wedi dweud nad ydi hyn yn ofynnol.

Dywedodd Mr Schiavone: "Dwi'n siomedig iawn efo hyn. Mae'r cwmni o Gymru, eu prif swyddfa yng Nghaerdydd ac mae eu polisi iaith ... yn mynd yn erbyn fy hawliau sylfaenol.

'Ofnadwy'

"Mae'n ofnadwy fod y gyfraith yn caniatáu i hyn ddigwydd."

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn edrych i mewn i'r mater yn bersonol.

Dywedodd: "Ynglŷn ag agwedd, ynglŷn â busnes dyw e ddim yn gwneud lot o synnwyr bod cwmni yn cael ei ystyried fel un sydd yn methu rhoi gwasanaethau yn Gymraeg, yn enwedig cwmni mawr.

"Felly bydden i yn meddwl y bydde Admiral eisiau sicrhau bod 'na wasanaeth drwy'r Gymraeg ar gael i bobol."

Dridiau wedi'r alwad ffôn wreiddiol fe wnaeth Admiral gysylltu â'r cwsmer yn Gymraeg ond mae'r cwmni wedi dweud na allan nhw sicrhau hyn ar bob achlysur.

'Yn falch'

"Mae Admiral yn falch iawn o fod yn gwmni Cymreig ond mae ein busnes yn cael ei gynnal ar draws y Deyrnas Gyfun," meddai'r cwmni.

"Nid ydym yn hysbysu ein cwsmeriaid ein bod yn gallu cynnig ein gwasanaethau yn y Gymraeg ond rydym yn ceisio ymateb i ofynion ein cwsmeriaid pan fo hynny'n bosib."

Ar sail y ffaith fod rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg fod â thystiolaeth fod sail i ymchwilio, dyw hi ddim wedi mynd â'r mater ymhellach er gwaethaf cwyn Mr Schiavone.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Meri Huws: "Nid oes gorfodaeth statudol ar gwmni Admiral i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae Mr Schiavone wedi gofyn i Admiral am recordiad o'r sgwrs er mwyn perswadio'r comisiynydd i gynnal ymchwiliad swyddogol.