Lluniau / Pictures

  • Cyhoeddwyd
Ela yn mwynhau chwarae yn y tywod ym mhabell y Mudiad Meithrin.
Disgrifiad o’r llun,

Ela yn mwynhau chwarae yn y tywod ym mhabell y Mudiad Meithrin.

Andy Phillips o Ddawnswyr Delyn (Yr Wyddgrug).
Disgrifiad o’r llun,

Andy Phillips o Ddawnswyr Delyn (Yr Wyddgrug). Mae Andy yn dod yn wreiddiol o Birmingham ac fe ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl ar ôl symud i Rhuthun. Mae Dawnswyr Delyn yn perfformio ar y maes heddiw ac yn cystadlu ddydd Gwener.

Rhys Meirion, Beti George a Rhys Jones wedi sgwrs Beti a'r ddau Rhys yn y Babell Lên
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Meirion, Beti George a Rhys Jones wedi sgwrs Beti a'r ddau Rhys yn y Babell Lên. Dywedodd Beti "Ellwn ni di fod ma am ddwy awr arall yn cael y perlau 'ma gan y ddau. Arbennig, un o'r pethe gorau dwi erioed wedi gwneud!"

Rhys Jones a Beti George
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Jones yn dweud rhywbeth doniol iawn wrth Beti George.

Y cyn Archdderwydd T James Jones yn ymlacio ar y maes heddiw.
Disgrifiad o’r llun,

Y cyn Archdderwydd T James Jones yn ymlacio ar y maes heddiw. “Mae’n braf cael mwynhau yr Eisteddfod am unwaith yn lle cael dyletswyddau i’w gwneud!”

Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru, oedd yn lansio Gŵyl Llen Plant yr Eisteddfod ar stondin yr wyl.
Disgrifiad o’r llun,

Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru, oedd yn lansio Gŵyl Llen Plant yr Eisteddfod ar stondin yr ŵyl. “Mae’n ddatblygiad cyffrous sydd yn dilyn ymlaen o lwyddiant Gŵyl Llen Plant Caerdydd, sydd yn dod a mwy o ddigwyddiadau i blant sydd efallai wedi bod ar goll yn yr Eisteddfod Genedlaethol.” Bydd yr wyl yn cynnwys Stomp i blant, gweithdy barddoniaeth a gweithdy rap yn yr Eisteddfod.

Adam Phillips ac Aled Cottle o Fand Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Adam Phillips ac Aled Cottle o Fand Cambrian, band gorymdeithio sydd yn perfformio caneuon Cymraeg. Fe wnaeth y band agor Maes D bore ‘ma ac maen nhw wedi bod yn gorymdeithio o gwmpas y Maes.

Band Awyrlu Sain Tathan oedd yr unig gystadleuwyr yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 3 - ac oedd, roedden nhw'n llwyddiannus!
Disgrifiad o’r llun,

Band Awyrlu Sain Tathan oedd yr unig gystadleuwyr yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 3 - ac oedd, roedden nhw'n llwyddiannus!

Hywel Gwynfryn yn cael paned a gorffen ei baratoadau cyn dechrau darlledu ar Radio Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Gwynfryn yn cael paned a gorffen ei baratoadau cyn dechrau darlledu ar Radio Cymru.

Parti plu Angie Davies o Swydd Gaerwrangon
Disgrifiad o’r llun,

Parti plu Angie Davies o Swydd Gaerwrangon - maen nhw'n aros mewn bwthyn yn ardal y Steddfod felly penderfynon nhw dreulio eu dydd Sadwrn ar y Maes yn gwrando ar y gerddoriaeth ar y llwyfan perfformio.

Brian Jones, Swyddog Cymunedol Ysgolion Sir Fôn sydd yn gweithio gyda phobl ifanc ar yr ynys.
Disgrifiad o’r llun,

Brian Jones, Swyddog Cymunedol Ysgolion Sir Fôn sydd yn gweithio gyda phobl ifanc ar yr ynys.

Ianto Phillips sydd yn un o’r criw sydd yn cynnig teithiau tywys o gwmpas y Maes bob diwrnod.
Disgrifiad o’r llun,

Ianto Phillips sydd yn un o’r criw sydd yn cynnig teithiau tywys o gwmpas y Maes bob diwrnod am 1030 a 1330 o’r Ganolfan Groeso gyda thaith arbennig i ddysgwyr am 1230 o Maes D.

Hen lori betrol James Pickstock, Meifod.
Disgrifiad o’r llun,

Hen lori betrol James Pickstock, Meifod.