Arian i ddiogelu safle hen waith dur Brymbo

  • Cyhoeddwyd
Llun o hen waith dur Brymbo gan Ken PetersFfynhonnell y llun, Ken Peters
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer o hen luniau fel yr un hwn yn rhan o archif ddigidol

Bydd grŵp cymunedol yn derbyn £97,000 er mwyn ceisio diogelu rhan o safle hen waith dur Brymbo ger Wrecsam.

Mae nifer o adeiladau rhestredig ar y safle, wnaeth roi'r gorau i gynhyrchu dur yn 1990.

Ond mae'n debyg bod cyflwr yr adeiladau yn dirywio.

Daw'r arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, sy'n dweud fod yr adeiladau yn unigryw ac yn enghraifft o waith dur sy'n dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif.

Cynlluniau

Bwriad Grŵp Treftadaeth Brymbo yw creu ardal dreftadaeth yn ngogledd ddwyrain Cymru ar gyfer hen ddiwydiannau ardal Wrecsam a'r cyffiniau.

Ffynhonnell y llun, Colin Davies
Disgrifiad o’r llun,

Gweithiwr ar y safle yn 1964

Mae yna hefyd gynlluniau i gyflwyno teithiau tywys o amgylch safleoedd hanesyddol, ac mae yna fwriad i greu llyfrgell ddigidol o 3,000 o hen luniau ar gyfer defnydd ysgolion lleol, colegau a phrifysgolion.

Dywedodd Colin Davies, arweinydd y prosiect a chyn weithiwr yn y gwaith dur:

"Mi roedd mor bwysig bod cenedlaethau'r dyfodol yn dysgu sut le oedd y pentref a'r ardal gyfagos flynyddoedd yn ôl a dwi wrth fy modd nawr y bydd stori gweithfeydd Brymbo ar gof a chadw ac yn dod â chenedlaethau at ei gilydd."

'Syniad ardderchog'

Yn ôl Nigel Stapley, o Frymbo, roedd y gwaith dur yn hynod bwysig i'r pentrefi bach oedd yn ei amgylchynu.

"Mae'n syniad ardderchog i gadw'r adeiladau a hen luniau ond hefyd atgofion pobl.

"Mae chwarter canrif ers i'r hen le gau ac mae hyd yn oed rhai o'r bobl oedd yn gweithio yno ar y diwedd wedi ein gadael ni erbyn hyn.

"Felly mae'n bwysig cofnodi hanes y cyn weithwyr. Unwaith bod nhw wedi mynd mae'r cof a'r hanesion yn diflannu efo nhw.

"Mae'n bwysig mynd ati i gasglu atgofion cyn gynted ag y bo modd."

Fe wnaeth y gwaith o gynhyrchu dur ddechrau yn ardal Brymbo tua 1761, pan etifeddodd John Wilkinson a'i frawd ffwrnais Y Bers gan eu tad.

Yn fuan wedyn fe wnaeth John Wilkinson brynu Neuadd Brymbo a chodi dwy ffwrnais yno - y cam cyntaf tuag at godi gwaith dur Brymbo.

Ffynhonnell y llun, HLF
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp yn gobeithio denu twristiaid i ymweld a'r safle.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol