Beirniadu bwrdd iechyd am golli data
- Cyhoeddwyd
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi beirniadu bwrdd iechyd wedi i wybodaeth bersonol am glaf fynd ar goll.
Aeth y dogfennau ar goll wrth i seiciatrydd ymgynghorol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro deithio o'i waith.
Roedd adroddiad am glaf iechyd meddwl, llythyr cyfreithiol a cheisiadau am swydd yn y bag gafodd ei golli.
Mae adroddiad y comisiynydd yn dweud nad oedd y bwrdd iechyd wedi rhoi digon o ystyriaeth i ddiogelu data.
Mae'r bwrdd iechyd wedi addo gwella ei phrosesau i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.
Gwybodaeth bersonol
Aeth y wybodaeth ar goll wrth i'r seiciatrydd seiclo o'i waith y llynedd.
Deellir bod y bag gyda'r dogfennau wedi ei roi ar set plentyn ar y beic, a'i fod wedi disgyn wrth deithio.
Yn y bag roedd adroddiad o dribiwnlys claf iechyd meddwl, pum cais am swydd a llythyr cyfreithiwr.
Cafodd eitemau personol, pwrs a ffôn, hefyd eu colli.
Mae adroddiad swyddfa'r comisiynydd yn dangos y byddai'r aelod o staff wedi gweld y dogfennau drwy gysylltiad o'i gartref ac nid oedd angen mynd â'r dogfennau o'r swyddfa.
Ond nid oedd staff yn ymwybodol o'r ffaith.
Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud nad oedd y seiciatrydd wedi derbyn hyfforddiant diogelu data tan ar ôl y digwyddiad.
'Dim digon da'
Dywedodd Comisiynydd Cynorthwyol Cymru, Anne Jones: "Oherwydd natur sensitif y wybodaeth bersonol mae byrddau iechyd yn ei chadw, mae'n glir bod angen polisïau digonol mewn grym i ddiogelu manylion cleifion, gan gynnwys rheolau i sicrhau bod gwybodaeth ond yn gadael y safle pan fo hynny'n angenrheidiol.
"Roedd modd osgoi'r digwyddiad yn gyfan gwbl.
"Yn syml, dydy hi ddim yn ddigon da bod seiciatrydd ymgynghorol heb gael hyfforddiant digonol ac nad oedd yn ymwybodol o'r opsiynau mwy diogel oedd ar gael."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud y byddan nhw'n sicrhau na fydd digwyddiad tebyg eto.
'Ddim yn addas'
Dywedodd Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol y bwrdd: "Mae'r bwrdd iechyd wedi gweithio yn agos gyda'r comisiynydd ac rydym yn falch bod ein gwaith i wella'r sefyllfa yn ddigon i sicrhau'r comisiynydd nad yw dirwy yn addas yn yr achos yma.
"Mae gan y bwrdd iechyd raglen i adolygu sut mae cadw gwybodaeth yn ddiogel a byddwn yn parhau i weithio gyda swydfa'r comisiynydd i gryfhau'r gwaith yma."
Yn 2012, cafodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddirwy o £70,000 am anfon adroddiad gyda manylion personol am glaf at berson anghywir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd6 Awst 2013
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2013