DVLA yn torri'r Ddeddf Diogelu Data

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys y DVLA yn AbertaweFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys y DVLA yn Abertawe

Fe wnaeth asiantaeth drwyddedu'r DVLA dorri'r Ddeddf Diogelu Data wyth o weithiau yng Nghymru yn 2012.

Roedd saith camgymeriad clerigol wrth anfon post i'r cyfeiriad anghywir ac un achos o ddatguddio gwybodaeth i drydydd parti mewn camgymeriad.

Ni chafodd yr un aelod o staff eu disgyblu'n ffurfiol am dorri'r Ddeddf.

Cafodd BBC Newyddion Ar-lein y wybodaeth wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd llefarydd y DVLA: "Rydym yn cymryd materion diogelwch gwybodaeth bersonol wirioneddol o ddifrif, a disgwylir i'n holl staff weithredu gydag uniondeb bob amser.

"Ym mhob achos ymdriniwyd â'r mater yn unol â phroses Rheoli Perfformiad yr Asiantaeth.

"Mae gan y DVLA nodau corfforaethol sy'n berthnasol i holl staff yng nghyd-destun eu Hadolygiad Datblygiad Personol ac mae hyn yn cynnwys nod ar gyfer colli data neu wybodaeth.

"Byddai'r unigolion cysylltiedig wedi eu trin yn unol â'r nod hwn".

Diswyddo pump

Fe wnaeth y DVLA ddiswyddo pump o bobl yng Nghymru dros y tair blynedd flaenorol am dorri'r Ddeddf Diogelu Data.

Roedd y pump wedi rhyddhau gwybodaeth i drydydd person, ac roedd pedwar ohonynt wedi edrych ar y gronfa ddata am gerbydau heb awdurdod i wneud hynny.

Ers dechrau'r 70au mae'r DVLA wedi bod yn cadw cofnod o drwyddedau gyrwyr.

Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi dros 5,000 o bobl, yn cofrestru 36 miliwn o geir a 44 miliwn o yrwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol