Cynnal post mortem ar ddynes fu farw mewn afon yn Nant Ffrancon

  • Cyhoeddwyd

Mae post mortem wedi ei gynnal ar ddynes y daethpwyd o hyd i'w chorff mewn afon yn Nant Ffrancon, Bethesda, brynhawn Llun.

Dywedodd yr heddlu nad oedd amgylchiadau amheus.

Mae disgwyl i Grwner Gogledd-Orllewin Cymru Dewi Pritchard Jones agor cwest wedi gwyliau'r Nadolig.

Cafodd yr heddlu alwad toc cyn 4 yh yn dweud bod dynes yn yr afon.

Aeth yr heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a thîm achub mynydd yno i geisio ei hachub ond roedd y ddynes wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Paul Smith o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen: "Mae'n debyg bod y ddynes wedi mynd allan i gael golwg ar gyflenwad dŵr ei chartref.

"Ychydig wedi hynny, fe sylwodd ei phartner ei bod hi wedi mynd.

"Dim ond 50 medr o'i chartref mae'r lleoliad lle cafodd hi ei chanfod.

'Llifo'n gyflym'

Ychwanegodd: "Ffrwd fechan yw hi sy'n llifo i lawr y mynydd - tua hanner medr o led a thri chwarter medr o ddyfnder - ond roedd hi'n llifo'n gyflym.

"Fe alwyd yr holl wasanaethau brys yno.

"Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw oherwydd y lleoliad ac oherwydd ein harbenigedd mewn achub o ddŵr sy'n llifo'n gyflym."