Llifogydd: Y gwaith clirio'n dechrau
- Cyhoeddwyd

Roedd y gwaith clirio'n mynd yn ei flaen yn Aberystwyth fore Sadwrn

Roedd nifer o bobl ar y traeth wedi mynd i weld effeithiau'r storm

Roedd y fainc yma wedi cael ei gorchuddio gan raen

Roedd tonnau mawr i'w gweld fore Sadwrn hefyd

Mae'r telesgôp yma wedi gweld dyddiau gwell
Mae pobl hyd a lled Cymru'n ceisio cyfri'r gost wedi i lifogydd achosi llanast a difrod i eiddo preifat a chyhoeddus ddydd Gwener.
Mae'r bobl fu'n rhaid gadael eu cartrefi'n Aberystwyth oherwydd perygl llifogydd bellach wedi cael dychwelyd i'w cartrefi.
Ond mae promenâd y dref wedi cael ei chwalu mewn sawl man ac mae'n debyg y bydd y gost o'i atgyweirio yn uchel.
Dywedodd Cyngor Ceredigion: "Nid oedd y sefyllfa fore Sadwrn cyn waethed ag yr oedd yn sgil y llanwau blaenorol. Mae gweithwyr y cyngor wrthi'n clirio'r gwaddol mwyaf ar ben deheuol Rhodfa'r Môr, a rhwng Heol y Wig a Ffordd y Môr.
"Mae'r ffordd rhwng Ffordd y Môr a Chraig Glais yn dal ar gau. Mae'r gweithwyr hefyd wedi clirio'r ffordd i Orsaf y Bad Achub. Bydd gwaith clirio helaeth yn dechrau yn yr wythnos nesaf."
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd arholiadau'n cael eu gohirio am wythnos
Achub nifer
Cafodd ardaloedd yn y de ddwyrain ac yng Ngwynedd eu heffeithio'n ddrwg hefyd.
Deliodd y gwasanaethau brys gyda llifogydd mewn tua 30 o gartrefi yng nghanol Aberteifi ac roedd rhaid achub menyw feichiog o'i chartref yn Stryd y Santes Fair yng nghanol y dref.
Yn ogystal cafodd rhyw 70 o garafannau eu difrodi mewn parc gwyliau ger Cydweli.
Bu'n rhaid i griwiau'r bad achub symud pedwar o bobl o fferm yn Llanbedr ac achub pump o bobl oedd yn sownd yn eu carafannau ym Mhwllheli.
Problemau teithio yn parhau
Mae rhai ffyrdd yn parhau i fod ynghau gan gynnwys yr A4042 rhwng y Fenni a Llanellen a'r A487 yn Niwgwl.
Dyw gwasanaeth Trenau Arriva Cymru, dolen allanol ddim yn weithredol mewn sawl ardal gyda gwasanaethau bws yn cludo teithwyr rhwng:
Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog;
Machynlleth a Phwllheli;
Machynlleth ac Aberystwyth;
Llanelli a Chaerfyrddin;
Abertawe a Pantffynnon.
Yn ogystal mae nifer o rybuddion llifogydd dal mewn grym, gyda'r manylion i'w cael ar wefan Asiant yr Amgylchedd, dolen allanol.
'Fel bom'

Hwn yw'r ail dro i'r prom yn Aberystwyth gael ei ddifrodi mewn mater o fisoedd
Yn Aberystwyth a Borth bu'n rhaid i rhyw 100 o drigolion y dref symud i ganolfanau pwrpasol oherwydd pryderon y gallai ail lanw uchel y dydd am 21:20 achosi llifogydd i eiddo yn y dref.
Er i donnau sylweddol daro'r arfordir doedd y difrod ddim mor ddrwg ac yr oedd yn y bore, yn rhannol oherwydd bod y gwynt yn chwythu i gyfeiriad gwahanol, a chafodd y bobl ddychwelyd i'w tai yn fuan wedyn.
Roedd y llanw uchel blaenorol a'r gwyntoedd cryfion wedi achosi difrod sylweddol ar hyd y prom yn Aberystwyth, gydag un perchennog gwesty'n dweud bod yr olygfa "fel tase bom wedi mynd off".
Dywedodd y cyngor ar wefan Twitter bod difrod i'r rheiliau, potiau planhigion, celfi stryd ac arwynebedd y prom yn golygu bod y prom yn debygol o fod ynghau tan wythnos nesaf "er mwyn diogelu'r cyhoedd".

Bu'n rhaid i bobl oedd yn byw ger y lan adael eu cartrefi nos Wener
Dywedodd Richard Griffiths, perchennog gwesty'r Richmond, wrth Taro'r Post ar BBC Radio Cymru:
"Mae 'na mess aruthrol yma. Mae'r prom wedi codi, a'r cerrig a'r brics a'r pafin wedi cael eu taflu reit o gwmpas y prom.
"Mae'n cymdogion ar hyd y prom wedi cael eu floodio mas. Mae 'na lanast ofnadw'... Mae mwy nac un wedi padlo o gwmpas y basement... Mae 'na ffenestri wedi chwalu, mae fe'n edrych fel tase bom wedi mynd off a dweud y gwir..."

Dywedodd Richard Griffiths, perchennog Gwesty Richmond: "Diolch byth, mae'r heddlu wedi rhwystro pobl rhag dod i'r prom i weld y difrod ...
Wrth gyfeirio at y difrod i'w westy yntau, dywedodd Mr Griffiths: "Daeth y môr trwy'r drws ffrynt, ac i lawr i'r 'stafell waelod... Mae'r trydanwyr wedi bod fewn yn barod i sicrhau bod y trydan wedi cael ei ddiffodd, a bod y lle'n ddiogel ac mae'r saer yma... yn rhoi boardings i fyny ar y drws ffrynt, ond yn bersonol, ni'n ffodus iawn - mae lot o'n cymdogion ni mewn sefyllfa lot gwaeth."
Difrodwyd prom Aberystwyth gan storm arall ym mis Tachwedd.
Yn Aberteifi roedd llifogydd yn Heol y Santes Fair. Dywedodd Christopher Clarke brynhawn Gwener: "Pan agores i'r drws llifodd y dŵr i mewn ac roedd un droedfedd a hanner o ddyfnder."
Dywedodd Emyr Jones o'r gwasanaeth tân: "Ry'n ni'n pwmpo mas yn soled nawr ... ond ry'n ni'n gorfod meddwl am heno a dydd Sul."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2013