Arian llifogydd yn 'annhebygol'

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd yn ystod y dyddiau diwethaf wedi achosi difrod mawr yn Aberystwyth

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, mae'n annhebygol y bydd Cymru'n derbyn unrhyw arian ychwanegol i atgyweirio'r difrod gafodd ei achosi gan y llifogydd diweddar.

Mae Llywodraeth Cymru yn siarad â Llywodraeth Prydain ynglŷn â gwneud cais am gyllid o'r Undeb Ewropeaidd er mwyn cyfrannu at y gost.

Ond yn ôl Mr Jones fydd yr Undeb ond yn caniatáu cais o'r fath mewn achos arbennig.

Ychwanegodd fod llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig eisoes wedi mabwysiadu cynlluniau i helpu cynghorau lleol i glirio'r llanast yn dilyn y stormydd.

Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i asesu cost y difrod.

Mae Llywodraeth San Steffan yn rhoi cymorth ariannol i gynghorau Lloegr o dan gynllun Bellwin.

Iwerddon

Pwrpas cynllun Bellwin yw helpu cynghorau sy'n gorfod gwario mwy na 0.2% o'u cyllid ar gostau anarferol.

Ar raglen radio BBC Wales - Sunday Politics Wales, dywedodd Mr Jones mai penderfyniad llywodraeth Cymru oedd hi a ddylid cymryd camau o'r fath yng Nghymru.

Wrth son am arian ychwanegol. Dywedodd:" Dwi ddim yn credu y bydd yna arian ychwanegol yn dod i Loegr nac i Gymru oherwydd bod gan Loegr a Chymru arian wrth gefn i wneud unrhyw daliadau a hynny o dan gynllun Bellwin."

Ond yn ôl un cynghorydd sir Plaid Cymru o Aberystwyth Mark Strong fe ddylid gwneud cais i'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae yna arian o Ewrop sydd ar gael i ni atgyweirio'r difrod ac mae Llywodraeth Iwerddon eisoes wedi gwneud cais i gael yr arian.

"Lle mae ein llywodraeth. Dy nhw'n malio dim amdanom ni yn Aberystwyth."

Yr wythnos diwethaf bu beirniadaeth o Lywodraeth San Steffan gan rai o Arglwyddi Cymru yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Dywedodd yr Arglwydd Elystan-Morgan fod y sefydla yn Aberystwyth "yn fwy difrifol na'r hyn yr oedd Llywodraeth Prydain yn ei feddwl".

Ychwanegodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley, y gallai cost yr atgyweirio yn dilyn y difrod ymestyn i filiynau o bunnau ac mai "ychydig iawn o arian wrthgefn" sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddelio gydag argyfwng fel hwn.

.