Teyrnged i fyfyrwraig 21 oed o Goleg Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Miriam Elen BriddonFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Miriam Elen Briddon

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw'r fenyw 21 oed fu farw wedi damwain ar yr A482 ger Ciliau Aeron yng Ngheredigion nos Sadwrn.

Roedd Miriam Elen Briddon yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin.

Mewn datganiad dywedodd ei theulu fod Miriam yn "berson prydferth.

"Roedd hi wastad yn hapus, gyda gwên o hyd ar ei hwyneb.

'Diddordeb mawr'

"Roedd Miriam â diddordeb mawr mewn pobl eraill a chafodd effaith fawr ar bawb wnaeth ei chyfarfod.

"Bydd pawb oedd yn ei hadnabod yn ei cholli'n fawr.

"Dymuna ei rheini, chwiorydd, a'i chariad ddiolch i bawb yn y gymuned am eu caredigrwydd a'u cefnogaeth yn ystod yr amser anodd yma."

Roedd Miriam yn gyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Talgarreg ac Ysgol Dyffryn Teifi.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i apelio am dystion ac y dylen nhw ffonio Heddlu Aberystwyth ar 101.

Roedd hi'n gyrru Fiat Punto oedd mewn gwrthdrawiad â Vokswagon Golf tua 19:00.