Bale yn gwireddu breuddwyd

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ail gôl Real: Bale yn dathu

Mae'r Cymro Gareth Bale wedi dweud bod ennill Cynghrair y Pencampwyr yn brofiad y bydd yn ei gofio am byth wedi i'w gôl helpu Real Madrid guro Atlético Madrid yn y ffeinal o 4-1.

Mi sgoriodd yn ystod yr amser ychwanegol a rhoi Real ar y blaen. Daeth dwy arall gan Marcelo a Cristiano Ronaldo.

Dywedodd ei fod wedi gwireddu breuddwyd. "Roedd dathliadau'r dorf yn golygu popeth i fi. Ond y peth pwysicaf oedd ein bod ni wedi gweithio fel tîm ac wedi ennill y tlws a'r 10fed teitl ar gyfer y clwb."

'Gwobrau mawr'

Ymunodd Bale, 24 oed ac yn arfer chwarae i Spurs, gyda Real Madrid am £85.3m y llynedd. Bale oedd y chwaraewr drutaf erioed.

Ond mae'n mynnu nad y cyflog yw popeth. "Fe fydden i wedi dod yma am geiniog os y byddai hynny yn golygu mod i'n gallu ennill gwobrau mawr."

Mi gollodd sawl cyfle yn ystod y gêm cyn iddo sgorio ail gôl allweddol Real Madrid.

Peniodd wedi i Thibaut Courtois, golwr Atlético, arbed ergyd Angel di Maria.

"Roedd hi'n gêm agos, yn enwedig yn yr amser arferol. Rydyn ni wedi chwarae yn erbyn Atlético Madrid bedair gwaith y tymor hwn ac mae pob gêm wedi bod yn agos.

'Breuddwydio'

"Pan oeddwn i'n fachgen roeddwn i'n breuddwydio am godi'r cwpan.

"Ac mae codi'r degfed cwpan i Real yn brofiad arbennig, yn hanesyddol."

Dywedodd y rheolwr Carlo Ancelotti fod dyfalbarhad Bale wedi creu argraff.

"Roedd wedi bod yn anlwcus o flaen y gôl ond roedd yn y lle iawn ar yr eiliad dyngedfennol."

Bale sgoriodd yr unig gôl drechodd Barcelona yn y Copa del Rey y tymor hwn.