Casglu sbwriel bob tair wythnos yn Nwyfor

  • Cyhoeddwyd
biniau

Fe fydd Cyngor Gwynedd yn dechrau casglu sbwriel bob tair wythnos yn ardal Dwyfor yr wythnos hon.

Mae'r cyngor wedi dosbarthu 15,000 o becynnau, yn rhoi gwybodaeth i drigolion yr ardal am y newidiadau.

Fydd 'na ddim newid i'r gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol, na chwaith y gwasanaeth casglu gwastraff gardd pob pythefnos.

Fel rhan o'r newidiadau, mae'r cyngor yn dosbarthu "cartgylchu" pwrpasol i rai cartrefi yn Nwyfor.

Trigolion Dwyfor ydi'r cyntaf i dderbyn y cartiau.

Maen nhw wedi eu gwneud o dri bocs glas ar olwynion lle gellir postio deunyddiau i'w hailgylchu drwy flwch ym mhob bocs - papur a cherdyn yn y top, eitemau plastig yn y canol a photeli a jariau gwydr, caniau, tuniau, ffoil ac aerosols yn y gwaelod.

Yna gall y cartgylchu gael ei bowlio ar ochr y ffordd yn barod ar gyfer casgliad ailgylchu wythnosol y Cyngor.

Lledu'r cynllun yn 2015

Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gyflwyno yn ardaloedd Arfon a Meirionnydd yn 2015.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

"Gan fod y trefniadau newydd yn cychwyn ar 20 Hydref, byddwn yn annog trigolion ardal Dwyfor o'r sir i ddarllen y pecyn gwybodaeth yn ofalus a dechrau defnyddio eu calendr newydd.

"Ond, mae'n bwysig cofio mai dim ond casgliadau gwastraff gweddilliol, sef y bin olwyn gwyrdd neu fagiau du fydd, o 20 Hydref, yn cael eu casglu pob tair wythnos."

Fe ychwanegodd y cynghorydd fod yr awdurdod "yn annog trigolion sydd ag unrhyw bryderon am y trefniadau newydd hyn i gysylltu gyda thîm gwastraff ac ailgylchu'r Cyngor a fydd yn hapus i'w helpu."