Darganfod robot coll ar blaned Mawrth
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr yn ffyddiog mai delwedd o ran o Beagle 2 sydd i'w weld ar y blaned.
Mae robot Beagle 2, oedd ar goll ar blaned Mawrth, wedi cael ei ddarganfod - ac mae'r diolch yn rhannol i wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Fe geisiodd y robot lanio yn ysgafn ar wyneb y blaned ar Ddydd Nadolig 2003, ond nid oedd modd creu cysylltiad radio gyda'r robot ac roedd ar goll am flynyddoedd.
Roedd cynllun Beagle 2 yn golygu bod nifer o 'betalau' i fod i agor, ond mae'n ymddangos o ddelweddau newydd gan NASA na ddigwyddodd hyn.
''Heb agor yn llawn, doedd na ddim gobaith i ni allu cysylltu drwy gyswllt tonfedd radio gan fod mast y radio o dan y paneli solar,'' esboniodd yr Athro Mark Sims, rheolwr taith Beagle 2, o Brifysgol Caerlŷr.
"Mae'r rheswm dros fethiant y robot yn ddirgelwch, ond fe allai fod, yn fwy na thebyg, o achos lwc ddrwg yn unig'', meddai.

Dr Matthew Gunn a Dr Laurence Tyler o Brifysgol Aberystwyth.
Bydd y wybodaeth newydd yn rhwystredig iawn i'r gwyddonwyr oedd yn gyfrifol am y daith oherwydd bod modd iddyn nhw weld nawr pa mor agos at lwyddo oedd y robot.
Cafodd Beagle 2 ei gludo i blaned Mawrth gan roced MEx yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, ac fe fydd y delweddau diweddaraf o ddiddordeb mawr i wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan eu bod wedi chwarae rhan flaenllaw yn y darganfyddiad.
Craig Duggan yn holi Dr Matthew Gunn
Cysylltodd y tîm oedd yn chwilio am Beagle 2 â Dr Laurence Tyler a Dr Mattew Gunn o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth gan ofyn iddyn nhw ddarparu delweddau 3D manwl o'r ardal lle'r oedd gwyddonwyr yn credu bod y robot wedi glanio.
Gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol oedd wedi ei ddatblygu gan Grŵp Roboteg y Gofod Prifysgol Aberystwyth, fe gyflwynodd Dr Tyler fap manwl o dirwedd yr ardal i'r gwyddonwyr gofod.
Dywedodd Dr Tyler: "Roedd y tîm a oedd yn chwilio am Beagle 2 eisiau gwybodaeth am y llethrau ar y tir yn yr ardal hon o'r blaned Mawrth. Roeddem yn gallu dangos iddyn nhw bod yr ardal lle'r oedd y glaniwr i fod i lanio yn wastad iawn."