Enwi dyn o Grymych fu farw yn y ddalfa yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn fu farw yn y ddalfa yn Hwlffordd ar 1 Chwefror wedi ei enwi fel Meirion James, 53, o Grymych.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i'w farwolaeth gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Cafodd Mr James ei arestio yn dilyn digwyddiad yng Nghrymych am 04:25 ar 31 Ionawr.
Cafodd ei hebrwng i'r ddalfa yn Swyddfa'r Heddlu yn Hwlffordd ble cafodd archwiliad meddygol ei gynnal ac fe benderfynwyd ei fod yn ddigon iach i'w gadw yn y ddalfa.
Yn ôl datganiad gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, fe fu digwyddiad yn yr orsaf am 11:00 y bore ac nid oedd modd cael unrhyw ymateb gan Mr James.
Galwyd am ambiwlans ac fe geisiwyd adfywio Mr James ond fe fu farw am 11.30 yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Dywedodd Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu bod Mr James wedi bod mewn damwain ffordd yn Llanrhystud ar yr A487 y diwrnod blaenorol ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn galw am wybodaeth gan unrhyw lygaid-dystion i'r ddamwain rhwng Neuadd Goffa Llanrhystud a garej Texaco yn y pentref tua 13:00 ar 30 Ionawr. Roedd Mr James wedi bod yn gyrru cerbyd Fiat Panda.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2015