Galeri Caernarfon yn dathlu 10 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd digwyddiad theatrig yn cael ei gynnal yn Galeri Caernarfon y penwythnos yma i ddathlu pen-blwydd y ganolfan yn 10 oed.
Sioe deuluol gymunedol ei naws ydi 'Yma Wyf Inna I Fod', sydd wedi ei greu i ennyn balchder yn nhref Caernarfon.
Fe fydd y digwyddiad yn agor gyda dawns fertigol gan gwmni Kate Lawrence cyn i aelodau SBARC agor drysau ar rai o ddigwyddiadau'r Galeri o'r gorffennol.
Ceir cyfraniadau hefyd gan Gôr Caernarfon, Theatr Bara Caws, Cofis Bach, Theatr Genedlaethol Cymru a Geraint Lovgreen.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Mari Emlyn, bod yr artistiaid wedi cael eu dewis oherwydd iddyn nhw "gyfrannu a chyfoethogi rhaglen artistig Galeri yn ystod y deng mlynedd diwethaf".
Mae'r Galeri, gafodd ei agor yn 2005, yn cynnal rhwng 400 a 450 o ddigwyddiadau pob blwyddyn, ac amcangyfrifir bod mwy na 500,000 o bobl wedi ymweld â'r sefydliad dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mei Mac gafodd ei gomisiynu i lunio cerdd i nodi agoriad y Galeri yn 2005. Mae'n addas felly mai dyfyniad o'i gân a ddewiswyd fel teitl i'r sioe i ddathlu'r dengmlwyddiant.
'Crochan celfyddydol'
Dywedodd Ms Emlyn: "Eiddo pobl Caernarfon a'r cylch ydi Galeri.
"Mae'n rhan o weledigaeth a chenhadaeth Galeri heddiw i wthio'r drws led y pen yn agored gan gynnig cyfleoedd pellgyrhaeddol i'n cymunedau. Gallwn ymfalchïo i dros hanner miliwn o bobl ddefnyddio Galeri ers agor y drysau ddeng mlynedd yn ôl.
"Nid canolfan yn cynnig rhaglen artistig safonol yn unig ydi Galeri, ond crochan celfyddydol sy'n cynnig cartref i artistiaid amatur a phroffesiynol i feithrin eu crefft. Bydd y syniad o ddrws agored yn ymdreiddio i'n gweithgareddau i gyd.
"Disgrifiwyd y Galeri'n ddiweddar gan y gantores Gwyneth Glyn fel 'cwrs antur celfyddydol'. Edrychwn ymlaen at ddeng mlynedd arall o antur celfyddydol."