Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2015

  • Cyhoeddwyd
Albwm y flwyddyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae 9 Bach, Candelas a Geraint Jarman ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi ei gyhoeddi gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r wobr yn rhoi sylw i gerddoriaeth Gymraeg sydd wedi ei recordio neu ei ryddhau rhwng 1 Mawrth 2014 a 30 Ebrill eleni.

Bydd y wobr yn cael ei gyflwyno i'r enillydd ar faes yr Eisteddfod ym Maldwyn ym mis Awst.

Enillydd y wobr y llynedd oedd The Gentle Good, am yr albwm Y Bardd Anfarwol'.

Y rhestr fer yn llawn yw:

  • 9 Bach - Tincian (Real World)

  • Al Lewis - Heulwen o Hiraeth (Al Lewis)

  • Candelas - Bodoli'n Ddistaw (I-Kaching)

  • Datblygu - Erbyn Hyn (Ankst Music)

  • Fernhill - Amser

  • Gwenno - Y Dydd Olaf (Peski)

  • Yws Gwynedd - Codi/\Cysgu

  • Geraint Jarman - Dwyn yr Hogyn Nol (Ankst)

  • Plu - Holl Anifeiliaid y Goedwig (Sain)

  • R Seiliog - In HZ (Turnstyle)

'Sylw haeddiannol'

Dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan: "Mae'n braf iawn gweld cymaint o amrywiaeth ar restr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, ac mae'n rhestr eithaf gwahanol i'r llynedd. Mae wedi bod yn flwyddyn dda o ran cynnyrch eleni, ac mae'r amrywiaeth ar y rhestr fer yn adlewyrchu hynny.

"Cydiodd amryw o'r albymau yn nychymyg y rheithgor, a bydd yn ddiddorol gweld beth fydd barn y beirniaid yn ystod wythnos yr Eisteddfod."

Dyma'r ail dro y mae'r wobr yn cael ei roi, wedi iddi gael ei sefydlu "i roi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio neu'i chreu'n ddiweddar".

Ychwanegodd Guto: "Mae nifer o wahanol ddisgyblaethau'n cael eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod, ac mae gwobrau'n bodoli ar gyfer mathau arbennig o gerddoriaeth, a bwriad y wobr hon yw dathlu pob math o gerddoriaeth sy'n cael ei chreu yn y Gymraeg ar hyn o bryd."

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno ar 7 Awst yng Nghaffi Maes B.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.