Geraint i arwain yr Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Geraint Lloyd Owen

Y Prifardd Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd ger Caernarfon fydd yn olynu Christine James fel Archdderwydd. Bydd yn ymgymryd â'i ddyletswyddau newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Geraint Llifon (ei enw barddol) ar ôl iddo dderbyn yr anrhydedd:

Beth mae bod yn Archdderwydd yn ei olygu i chi?

Wel, dwi dal yn Geraint Lloyd Owen, yr un Geraint ydw i ers dydd fy ngeni, does 'na ddim byd wedi newid mewn unrhyw ffordd â dweud y gwir, ond dwi yn edrych ar y ffaith mai fi fydd yr Archdderwydd nesaf fel braint ac anrhydedd fawr iawn iawn.

Pa mor berthnasol yw'r Orsedd erbyn hyn?

Dwi ddim yn deall hyn, mae 'na bobl o blaid a phobl yn erbyn ac yn y blaen, ond fedra i ddim gweld fod yr Orsedd yn amherthnasol o gwbl. Dwi ddim yn deall hynny, achos dwi'n meddwl fod 'na le pendant iawn iddi ac mae llawer iawn o aelodau'r Orsedd ar y Cyngor hefyd, ac mae'r rheini yn pasio rheolau a deddfau i geisio gwella natur yr Eisteddfod Genedlaethol. Dwi ddim yn gweld y pwynt o lambastio'r Orsedd fel y cyfryw.

Ydych chi'n barod i ddefnyddio eich rôl i fynegi barn ar bob math o bynciau?

Wel, mae hi'n rhy gynnar i ddweud i lawr pa lwybr 'dwi am fynd. Mae 'na Archdderwyddon arbennig iawn wedi bod dros y blynyddoedd, a phob un wedi torri eu cwys eu hunain, a dwi'n teimlo mai dyma y bydda i yn ei wneud, ond mae'n dibynnu ar chwiw y foment a beth sy'n mynd i ddigwydd. Fydd yna newidiadau nid yn unig yn y Steddfod, ond yn y gymdeithas tu allan, ac os bydd yna, fydd angen gwneud sylw?

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer yr Orsedd?

Fyswn i ddim yn dweud fod gen i weledigaeth ar gyfer yr Orsedd. Tydw i ddim wedi eistedd i lawr a meddwl am ddau funud - Beth wyt ti'n mynd i wneud efo'r swydd yma? - ac yn y blaen. Dwi'n mynd i gymryd pethau fel 'ma nhw'n dod, a tydw i ddim yn berson ymfflamychol o gwbl. Tydw i ddim am fynd i fyny ar lwyfan a dechrau pregethu a bytheirio yn erbyn hyn ac yn erbyn y llall.

Ar hyn o bryd, dim ond prif enillwyr llenyddol yr Eisteddfod sy'n gymwys i fod yn Archdderwydd. Gan mai dim ond eich enw chi oedd wedi ei gynnig y tro hwn, ydi hi'n amser ystyried pwy sy'n gymwys?

Disgrifiad o’r llun,

Geraint Lloyd Owen yn ennill coron Eisteddfod Wrecsam 2011. Bum mlynedd yn ddiweddarach Geraint Llifon fydd yn arwain y seremoni.

Na, dwi ddim yn meddwl, mae 'na lawer iawn o'r Gorseddogion yn gymwys, ond tydi hi ddim yn apelio at nifer helaeth ohonyn nhw mae'n amlwg. Un o'r rhesymau pam nes i ymgeisio am y swydd yn y lle cyntaf oedd roeddwn i'n mawr obeithio y bydda 'na etholiad am fod, a byddai hynny wedyn wedi codi statws y swydd. Ond does 'na ddim etholiad wedi bod ers sawl blwyddyn bellach.

Roedd eich brawd, Gerallt Lloyd Owen yn un o feirdd mwyaf yr 20fed ganrif. Beth ydych chi'n feddwl y byddai o wedi ei ddweud, wrth i chi dderbyn yr anrhydedd hon?

Pwy a ŵyr? Mi fysa'n rhaid i chi ofyn iddo fo yn bysa, a fedrwch chi ddim na allwch yn anffodus. 'Da ni gyd yn wahanol, hynny ydi, 'di o ddim gwahaniaeth gen i beth fysa Gerallt yn ei ddweud, Gerallt oedd Gerallt a Geraint ydi Geraint a 'da ni ddim yn sbïo drwy'r un sbectol bob amser.

Dwi'n gweld pethe'n wahanol i Gerallt, fysa fo efo dim diddordeb o gwbl i fod yn Archdderwydd, dim o gwbl, a dwi'n parchu'r farn yna yn bendant, dyna fyddai ei ddewis o, ond 'di hynny ddim yn gwneud fy mhenderfyniad i yn salach dewis.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Beth fyddai'r diweddar Gerallt wedi ei wneud o anrhydedd ei frawd Geraint?

Beth ydi wythnos Eisteddfod arferol i chi?

Tydw i ddim yn un sydd wrth fy modd yn crwydro'r maes o stondin i stondin. Dwi wedi bod yn cystadlu yn y genedlaethol ers yn hogyn ysgol ifanc iawn, a byth ers y cyfnod yna yn y 50au, cystadlaethau llwyfan sydd wedi bod yn mynd â fy mryd i.

Do, fues i'n cymryd rhan yn y Babell Lên yng nghystadleuaeth y siroedd ers talwm, ac mae gen i ddiddordeb beth sy'n digwydd yno hefyd.

Beth fydd yn wahanol o hyn allan?

Fydd 'na rai pethau o bosib fydd yn rhaid i mi eu gwneud yn rhinwedd fy swydd lle na faswn i fel arall yn debygol o fynd, ond fe fydd yn rhaid i mi ddangos fy wyneb mewn nifer o lefydd, a dwi'n fwy 'na bodlon i fod yn gwneud hynny wrth gwrs.

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf?

Llwyddo i wneud y swydd efo urddas, dwi yn edrych ymlaen at hynny. Tydi hi ddim yn swydd i chi ei thaflu i ffwrdd dros eich ysgwydd, mae 'na gyfrifoldeb yn dod efo hi, a dwi'n edrych ymlaen at wynebu'r cyfrifoldebau yna.

Oes gennych chi unrhyw bryderon, neu unrhyw beth nad ydych chi'n edrych 'mlaen atyn nhw?

Fel mae pethau heddiw, nagoes, does gen i ddim pryder mawr. Mi geisia i wneud y swydd mor onest ac mor drylwyr ag y medra i ei gwneud hi, y fi ydw i, ac felly beth bynnag ydi fy ngallu i neu fy niffyg gallu i, fel 'na y bydd hi ar y llwyfan mawr 'na, ac ar y maes.

Fedra i ddim dweud fy mod yn mynd allan efo ryw bwrpas mawr i weddnewid yr Eisteddfod ac i newid hyn ac i wrthod y llall.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.