Patagonia: Dechrau'r dathlu gyda sioe fawreddog
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiadau i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia wedi dechrau gyda sioe fawreddog yn ninas Puerto Madryn.
Roedd cantorion, dawnswyr ac acrobatiaid ar y llwyfan i gyfeiliant cerddoriaeth gafodd ei gyfansoddi yn arbennig i'r sioe yng nghanolfan Deportivo Madryn.
Fe wnaeth y perfformwyr ail-greu'r diwrnod gyrhaeddodd y teithwyr yn 1865, gyda pherfformiadau o emynau fel Calon Lan ac Ar Lan y Môr.
Roedd tan gwyllt yn ffrwydro a phapur coch, gwyn a gwyrdd ddisgyn o'r to wrth i'r dorf o gannoedd gymeradwyo'r perfformiad.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd yn y dorf, bod y perfformiad yn "drawiadol".
"Mae'n dangos faint y maen nhw'n trysori eu gwreiddiau yn y rhan yma o'r byd," meddai.
Nid oedd Arlywydd Ariannin, Christina Fernandez de Kirchner, yn y digwyddiad ar ôl iddi gael ei tharo'n wael.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2015