Mwy o gerddoriaeth nag erioed ym Mhrifwyl 2015

  • Cyhoeddwyd
Candelas ym Maes B yn 2013
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Candelas yn perfformio unwaith eto yn y Brifwyl

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn addo "mwy o gerddoriaeth nag erioed" ym Mhrifwyl Maldwyn a'r Gororau ym mis Awst eleni.

Ddydd Iau cafodd y cynta' o'r artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl eu cyhoeddi, a bydd rhagor o enwau i ddod dros yr wythnosau nesa'.

Bydd tocynnau'r Eisteddfod yn mynd ar werth ddydd Mercher.

Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, mae'r artistiaid eleni yn "gymysgedd eclectig... fydd yn perfformio mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y Maes ac ym Maes B".

Pwy fydd yn perfformio?

Ar y rhestr mae Candelas, Geraint Jarman, Bryn Fôn a'r Band, Al Lewis Band, Y Reu, Yr Eira, Bromas, Cowbois Rhos Botwnnog, Casi, Breichiau Hir, Trwbz, DJ Huw Stephens, Palenco, Geraint Lovgreen, Osian Howells, Brython Shag, Gwyneth Glyn, Sera Owen, Sorela, Meic Stevens, Anelog, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Bob Delyn a'r Ebillion.

Bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ym Meifod rhwng 1-8 Awst, 2015.

Fel dros y blynyddoedd diwethaf, bydd cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio ar draws y Maes bob dydd a chyda'r nos, gyda Llwyfan y Maes, Caffi Maes B a'r Tŷ Gwerin i gyd yn cynnig amserlenni llawn ac amrywiol. Yna, yn yr hwyr, bydd y gerddoriaeth yn parhau ym Maes B, a leolir wrth ymyl y Maes peByll.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod wedi cyflwyno nifer o newidiadau i Maes B yn ddiweddar

'Cyfnod arbennig o dda'

Dywedodd Guto Brychan, trefnydd Maes B ac un o gydlynwyr cerddoriaeth ar draws y Maes: "Mae mwy o gerddoriaeth nag erioed yn yr Eisteddfod eleni. Mae'r sin yn mynd drwy gyfnod arbennig o dda ar hyn o bryd, gydag amrywiaeth eang o artistiaid yn perfformio yn y Gymraeg. Gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i adlewyrchu'r amrywiaeth a'r safon yn yr arlwy ar y Maes eleni.

"Mae nifer ac ansawdd yr artistiaid hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd wythnos yr Eisteddfod i'r sin Gymraeg, a braf yw gweld cynifer o'r bandiau a'r artistiaid yn awyddus i berfformio yn yr ŵyl. Rydym wedi mynd ati i geisio sicrhau cydbwysedd rhwng rhai o enwau mawr y sin a rhoi llwyfan hefyd i artistiaid ifanc sy'n cychwyn ar eu gyrfa hefyd.

"Enghraifft o hyn yw cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, sy'n cael ei threfnu ar y cyd rhwng Maes B, C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru am y tro cyntaf eleni, gyda'r rownd derfynol ar Lwyfan y Maes nos Fawrth 4 Awst, a'r enillydd yn cael cynnig set ym Maes B ar noson olaf yr Eisteddfod, 8 Awst."

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cerddoriaeth fyw yn yn cael ei berfformio ar draws y Maes bob dydd a chyda'r nos

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol