Gollwng rhan fwya o dargedau amser ymateb ambiwlans

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi bod yn destun beirniadaeth am fethu targedau amser ymateb

Bydd Llywodraeth Cymru yn gollwng targedau amser ymateb i alwadau i'r Gwasanaeth Ambiwlans, heblaw am y galwadau mwyaf difrifol.

Yn achos galwadau llai brys, canlyniadau unrhyw driniaeth sy'n cael ei rhoi fydd y sail ar gyfer asesu perfformiad.

Mae penaethiaid y gwasanaeth am sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth gywir yn hytrach na'r ymateb cyflymaf.

Bydd llai o alwadau yn cael eu rhoi yn y categori coch - y rhai sydd angen ymateb o fewn wyth munud.

Bydd y targed i ymateb i 65% o'r galwadau yma, gafodd ei gyrraedd ddiwethaf ym mis Hydref 2013, yn cael ei adolygu.

Daw'r cyhoeddiad wedi i'r Gwasanaeth Ambiwlans fethu eu targed misol wrth ymateb i alwadau brys ym mis Mehefin.

Cynllun peilot

Dan y cynllun peilot 12 mis, bydd galwadau yn cael eu rhannu i dri chategori:

  • Categori coch: 10% o alwadau - angen ymateb o fewn wyth munud. Mae'n cymryd lle'r categori A presennol - y categori lle mae 40% o alwadau yn cael eu dosbarthu bob dydd ar hyn o bryd.

  • Categori oren: Bydd tua 65% o alwadau yn mynd i'r categori yma. Bydd y galwadau yn dal i gael ymateb brys, ond bydd perfformiad yn cael ei fesur ar sail triniaeth yn hytrach na chyflymder yr ymateb.

  • Categori gwyrdd: Bydd cleifion eraill yn cael eu hannog i ddefnyddio tacsis i'r ysbyty neu yn cael cynnig o driniaeth yn rhywle arall.

Bydd y cynllun peilot yn dechrau ar draws Cymru ym mis Hydref.

Methu targed Mehefin

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi derbyn beirniadaeth am fethu targedau amser ymateb yn gyson.

Ym mis Mawrth 2014, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, gyhoeddi newid ac unedau brys yng Nghymru yn cael eu monitro a'u mesur.

Mae'r Llywodraeth wedi bod yn annog pobl ond i alw am ambiwlans os oes gwir angen, er mwyn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth.

Daw'r cyhoeddiad wedi i'r Gwasanaeth Ambiwlans fethu eu targed misol wrth ymateb i alwadau brys, yn ôl yr ystadegau diweddara.

Yn achos 61.4% o alwadau ym mis Mehefin, fe gyrhaeddodd ambiwlans o fewn wyth munud. Y targed yw 65%.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething y byddai'r newidiadau yn "cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ganlyniadau clinigol ac ansawdd bywyd pobl"

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, mae'r galw ar y gwasanaeth "yn fwy cymhleth nag erioed o'r blaen ac mae'r galw'n cynyddu bob blwyddyn"

Ychwanegodd: "Mae'r model ymateb clinigol newydd, y byddwn yn ei dreialu yng Nghymru, wedi cael ei gynllunio gan brif arweinwyr clinigol gwasanaeth ambiwlans Cymru, ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

"Mae'n symud oddi wrth y system sy'n seiliedig yn unig ar darged o ymateb mewn wyth munud, a gyflwynwyd 41 o flynyddoedd yn ôl, i un sy'n mesur pa mor llwyddiannus yw ein clinigwyr ambiwlans wrth sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ganlyniadau clinigol ac ansawdd bywyd pobl."

'Symud y pyst'

Wrth ymateb dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Simon Thomas: "Mae Llywodraeth Lafur yn symud y pyst yn hytrach na delio â'r mater o amseroedd ymateb gwael.

"Mae hwn yn arbrawf peryglus sy'n profi nad oes gan Lafur unrhyw fwriad i wella faint o amser mae'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd rhywun mewn argyfwng; dim ond eisiau cuddio eu methiannau drwy osod targedau llai uchelgeisiol a chyhoeddi llai o ffigyrau y maen nhw."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar: "Er bod ymagwedd newydd tuag at dargedau yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu, mae'n rhaid i weinidogion Llafur sicrhau ein bod yn gallu cymharu perfformiad Cymru â rhannau eraill o'r DU."

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wedi dweud "mai er lles cleifion y dylid gwneud i ffwrdd a'r targedau ac nid er hwylustod gwleidyddol".